CLILC

 

Lwfansau’r Aelodau WLGA

Mae Cyfansoddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn dweud fel a ganlyn gall y WLGA sefydlu cynllun lwfansau i’r cynghorwyr sy’n cyflawni rolau ar ran WLGA. Dyma’r lwfansau ar gyfer 2020-21:

 

  • Llywydd - £5,500
  • Dirprwy lywydd (y cylch gwleidyddol mwyaf) - £2,200
  • Arweinydd - £5,500
  • Dirprwy Arweinydd - £4,400
  • Arweinydd cylch gwleidyddol - £2,200

 

O’u gwirfodd y bydd aelodau’n ymwneud â’r cynllun, ac mae pawb yn cael dewis a fydd yn mynnu lwfans neu beidio. Mae Pwyllgor Archwilio WLGA yn adolygu’r cynllun bob blwyddyn. Dyw Cynllun Lwfansau Aelodau WLGA ddim yn rhan o orchwyl y Panel Annibynnol dros Gydnabyddiaeth.

 

Cynllun Lwfansau Cymdeithas Llywodraeth Leol

Mae’n bosibl y bydd rhai o aelodau Cyngor WLGA a chynghorau lleol Cymru yn cael eu penodi i fyrddau, pwyllgorau neu swyddi Cymdeithas Llywodraeth Leol hefyd ac, o ganlyniad, efallai y byddan nhw’n cael hawlio lwfans megis: Bwrdd Gweithredu LGA - £2,841   

Members appointed to ‘Employer Side’ bodies by the LGA or WLGA will receive a day rate of £300, based on the number of meetings attended. Gallai rhai o aelodau Cyngor WLGA a chynghorau lleol Cymru gael eu penodi i fyrddau eraill LGA, lle bydd hawl i dderbyn. Cynrychiolwyr cylchoedd gwleidyddol LGA fyddai aelodau o’r fath, fodd bynnag, nid cynrychiolwyr WLGA.


Dolenni: 

https://www.wlga.cymru/wlga-members-allowances-scheme