Mae Cyfansoddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn dweud fel a ganlyn gall y WLGA sefydlu cynllun lwfansau i’r cynghorwyr sy’n cyflawni rolau ar ran WLGA.
Dyma’r lwfansau ar gyfer 2023-24:
- Llywydd - £9,375
- Dirprwy lywydd (y cylch gwleidyddol mwyaf) - £3,125
- Arweinydd - £12,500
- Dirprwy Arweinydd/ion - £9,375
- Arweinydd cylch Annibynnol - £5,000
- Arweinydd cylch Plaid Cymru - £5,000
- Llefarydd dros Addysg - £5,000
- Llefarydd dros yr Economi - £5,000
- Llefarydd dros Wasanaethau Cymdeithasol - £5,000
O’u gwirfodd y bydd aelodau’n ymwneud â’r cynllun, ac mae pawb yn cael dewis a fydd yn mynnu lwfans neu beidio. Mae Pwyllgor Archwilio WLGA yn adolygu’r cynllun bob blwyddyn. Dyw Cynllun Lwfansau Aelodau WLGA ddim yn rhan o orchwyl y Panel Annibynnol dros Gydnabyddiaeth.
Cynllun Lwfansau Cymdeithas Llywodraeth Leol
Mae’n bosibl y bydd rhai o aelodau Cyngor WLGA a chynghorau lleol Cymru yn cael eu penodi i fyrddau, pwyllgorau neu swyddi Cymdeithas Llywodraeth Leol hefyd ac, o ganlyniad, efallai y byddan nhw’n cael hawlio lwfans megis: Bwrdd Cynghori Gweithredu LGA (Cynrychiolydd CLlLC) £3,090.
Members appointed to ‘Employer Side’ bodies by the LGA or WLGA will receive a day rate of £348, based on the number of meetings attended. Gallai rhai o aelodau Cyngor WLGA a chynghorau lleol Cymru gael eu penodi i fyrddau eraill LGA, lle bydd hawl i dderbyn. Cynrychiolwyr cylchoedd gwleidyddol LGA fyddai aelodau o’r fath, fodd bynnag, nid cynrychiolwyr WLGA.
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lee Pitt