CLILC

 

Safonau’r Gymraeg

O 30 Mawrth 2017, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ôl Adran 44 Mesur y Gymraeg 2011.  Mae’r safonau’n datgan yn eglur fod disgwyl inni gynnig gwasanaethau i’n cwsmeriaid yn y Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith ym mhob un o’n gwasanaethau ni.

 

Mae’r safonau y bydd rhaid inni gadw atyn nhw wedi’u didoli yn ôl pedwar categori:

 

  • Cynnig gwasanaethau
  • Llunio polisïau
  • Agweddau gweithredol
  • Cadw cofnodion

 

Mae manylion y safonau, sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw a sut rydyn ni’n bwriadu cadw golwg ar ein cydymffurfiaeth yn y paragraff isod, ‘Safonau sy’n berthnasol i ni o ran y Gymraeg, a sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw’.

 

Os ydych chi am gyflwyno cwyn, darllenwch ein polisi ynglŷn â chwynion i weld sut mae gwneud hynny.

 

Cewch chi gyflwyno cwynion ynglŷn â’r iaith i Gomisiynydd y Gymraeg hefyd.

 

Safonau sy’n berthnasol i ni o ran y Gymraeg, a sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw

Dyma’r safonau mae rhaid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydymffurfio â nhw yn ogystal â gwybodaeth am sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw ac yn cadw llygad ar hynt y cydymffurfio.

 

 

 

Polisi cwynion

Mae’r polisi’n amlinellu gweithdrefn cyflwyno cwynion am unrhyw wasanaethau neu’r modd rydyn ni’n cadw at Safonau’r Gymraeg.  Mae’n diffinio cwyn ac yn esbonio sut y cewch chi gyflwyno cwynion.

 

Hybu’r Gymraeg

 

  • Mae CLlLC wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn y gweithle ac yn annog pob rhanddeiliaid i ddefnyddio ein gwasanaethau Cymraeg pryd bynnag y dymunant wneud hynny.
  • Mae CLlLC yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac mae yn ddatganiad sy'n atgyfnerthu hyn yn llofnodau e-bost pob aelod o staff.
  • Mae CLlLC hefyd yn croesawu galwadau yn y Gymraeg ac yn darparu canllawiau staff ar bob safon y Gymraeg sy’n gysylltiedig â chyflenwi gwasanaethau i gefnogi cydweithwyr i gydymffurfio.
  • Mae CLlLC yn defnyddio rhagdudalen sblash, sef tudalen flaen ar y gwefan sydd yn cynnig cyfle i bob ddefnyddiwr gallu dewis defnyddio’r Gymraeg cyn iddynt gael mynediad at wasanaethau’r wefan. Gan wneud hyn yn ddewis clir a phwrpasol mae’n annog mwy o ddefnyddwyr i ymgysylltu â’n gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.
  • Mae holl ddogfennau templed Saesneg CLlLC yn nodi bod y dogfennau hefyd ar gael yn Gymraeg ac mae pob aelod o staff yn cael eu hatgoffa o'n safonau a’r canllawiau staff ar sut i gydymffurfio â rhain yn rheolaidd.
  • Mae CLlLC yn annog defnyddio'r Gymraeg yng nghyfarfodydd drwy gyflwyno gwahoddiadau dwyieithog, canfod dewisiadau iaith a darparu gwasanaethau cyfieithu Cymraeg ar y pryd yn ôl gofynion y safonau.
  • Mae pob arwydd, cyhoeddusrwydd a negeseuon o’r cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog, gyda'r testun Cymraeg yn cael ei arddangos yn gyntaf.
  • Mae CLlLC hefyd yn annog pob gweithiwr i ddefnyddio logo Iaith Gwaith fel sbardun gweledol i helpu cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.
  • Mae yna weithdrefnau mewnol i fonitro cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg a chyhoeddir Adroddiad Blynyddol CLlLC ar Safonau'r Gymraeg bob Hydref.
https://www.wlga.cymru/welsh-language-standards