O 30ain Mawrth 2017, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ôl Adran 44 Mesur y Gymraeg 2011. Mae’r safonau’n datgan yn eglur fod disgwyl inni gynnig gwasanaethau i’n cwsmeriaid yn y Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith ym mhob un o’n gwasanaethau ni.
Mae’r safonau y bydd rhaid inni gadw atyn nhw wedi’u didoli yn ôl pedwar categori:
- cynnig gwasanaethau;
- llunio polisïau;
- agweddau gweithredol;
- cadw cofnodion.
Mae manylion y safonau, sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw a sut rydyn ni’n bwriadu cadw golwg ar ein cydymffurfiaeth yn y paragraff isod, ‘Safonau sy’n berthnasol i ni o ran y Gymraeg, a sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw’.
Os ydych chi am gyflwyno cwyn, darllenwch ein polisi ynglŷn â chwynion i weld sut mae gwneud hynny.
Cewch chi gyflwyno cwynion ynglŷn â’r iaith i Gomisiynydd y Gymraeg hefyd.

Safonau sy’n berthnasol i ni o ran y Gymraeg, a sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw
Dyma’r safonau mae rhaid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydymffurfio â nhw yn ogystal â gwybodaeth am sut rydyn ni’n cydymffurfio â nhw ac yn cadw llygad ar hynt y cydymffurfio.

Polisi cwynion
Mae’r polisi’n amlinellu gweithdrefn cyflwyno cwynion am unrhyw wasanaethau neu’r modd rydyn ni’n cadw at Safonau’r Gymraeg. Mae’n diffinio cwyn ac yn esbonio sut y cewch chi gyflwyno cwynion.