CLILC

 

Hyb Meincnodi Ariannol Gwasanaethau Gwastraff

 

Mae'r Hyb Meincnodi Ariannol Gwasanaethau Gwastraff wedi cael eu datblygu ar y cyd ag Data Cymru ac mae’n darparu cronfa fanwl o ddata ariannol yn ymwneud â gwasanaethau gwastraff o 22 awdurdod lleol Cymru. Mae’r data yn cynnwys:

 

  1. Gwastraff Bwyd
  2. Ailgylchu Sych
  3. Gwastraff Gweddilliol
  4. Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
  5. Gwastraff Masnach

 

Crëwyd yr Hyb yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd gan Ricardo AEA i waith meincnodi Cymru. Ei nod yw gwella lledaenu data'r gwaith meincnodi. Trwy gydgrynhoi’r data mewn un lle, mae’r Hyb yn rhoi cyfle i swyddogion mewn awdurdodau lleol gwestiynu a chael mynediad i’r data yn ôl eu dymuniad.

 

Er mwyn defnyddio’r Hyb, bydd angen creu cyfrif ar-lein wedi ei ddiogelu gan gyfrinair yn gyntaf - agor y ddolen yma i gofrestru. Wrth gofrestru, nodwch mai data gwastraff y mae gennych ddiddordeb ynddo pan ofynnir y cwestiwn “Pam mae angen i chi gael mynediad i’r Hyb Meincnodi?”


Mae rhagor o gwybodaeth gan: Barry Williams

https://www.wlga.cymru/waste-services-financial-benchmarking-hub