Fframwaith Hunanwerthuso Cefnogaeth i Gynghorwyr Cymru

​ Mae rôl cynghorydd yn gymhleth ac yn ddwys ac yn dod yn gynyddol heriol gyda phob cyfnod newydd mewn swydd. Mae Cynghorau yn darparu’r gefnogaeth mae holl gynghorwyr ei hangen i gyflawni’r deilliannau sydd eu hangen gan eu cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, canllawiau a datblygiad.

 

Mae gan Gynghorau hanes maith o weithio gyda’i gilydd a gyda CLlLC i rannu gwybodaeth, arfer da ac adnoddau ar gyfer cefnogi a datblygu cynghorwyr. Mae’r Fframwaith Hunanwerthuso Cefnogaeth i Gynghorwyr hwn yn darparu dull i gynghorau sicrhau eu hunain fod ganddynt yr holl gefnogaeth bosibl ar waith i’w cynghorwyr. Mae’r Fframwaith wedi cael ei ddatblygu gan CLlLC, swyddogion gwasanaethau democrataidd a chynghorwyr ac mae’n darparu fframwaith cenedlaethol uchelgeisiol ond pragmatig o arfer da i gefnogi cynghorwyr. Mae’n cydnabod gofynion deddfwriaethol, canllawiau statudol a chanllawiau eraill, yr anghenion a fynegwyd gan gynghorwyr ac enghreifftiau a dderbynnir yn gyffredinol o’r hyn sy’n gweithio.

 

Mae’r Fframwaith hefyd yn adlewyrchu’r dull o dan arweiniad sector a gymerir gyda’r rhaglen ehangach ar gyfer gwelliant a hunanasesu yng Nghymru ac mae’n galluogi rhannu arfer da rhwng cynghorau.

 

Mae’r Fframwaith yn cynnwys:

  • cefnogaeth a datblygiad i gynghorwyr yn yr ystyr ehangaf i ymgorffori cefnogaeth gan y cyngor cyfan. Gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, er enghraifft, gwasanaethau democrataidd,timau cyfreithiol, digidol, cyfathrebu, dysgu a datblygu, a chyfarwyddiaethau yn eu cefnogaeth ar gyfer craffu, y bwrdd gweithredol a chynghorwyrrheng flaen,
  • anghenion pob cynghorydd cyn etholiad, fel aelodau newydd ac fel gwleidyddion profiadol,
  • holl rolau cynghorydd o fewn y cyngor ac yn y gymuned,
  • cefnogaeth bersonol a ‘phroffesiynol’ a ddarperiri gynghorwyr o fewn dylanwad cynghorau a hefyd
  • disgwyliadau a osodir ar gynghorau, swyddogion, a chynghorwyr eu hunain.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30