Wcráin - Gwybodaeth a Chymorth

Llywodraeth y DU

Chymorth i aelodau teulu dinasyddion o Brydain sydd yn Wcráin, ac ar gyfer pobol Wcráin sydd yn Wcráin ac ym  Mhrydain 

 

Chymorth i aelodau teulu dinasyddion o Brydain sydd yn Wcráin, ac ar gyfer pobol Wcráin sydd yn Wcráin ac ym  Mhrydain - Fersiwn PDF

 

Taflen ffeithiau: Camau'r Swyddfa Gartref ar Wcráin

 
Llywodraeth Cymru

Cefnogi pobl Wcráin

 
Cyngor cyfreithiol: Ukraine Advice Project UK

Cyngor ar fewnfudo a lloches y DU am ddim i bobl Wcráin a'u teuluoedd gan gyfreithwyr

 

Canllawiau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn cynnig llety ac yn noddi person neu deulu o Wcráin: Rhagor o wybodaeth yma. 

 

Gwefan

Mae clymblaid o grwpiau gwrth-gaethwasiaeth a hawliau dynol wedi lansio gwefan ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn y DU, gyda'r nod o gadw pobl yn ddiogel a'u helpu i addasu i'w cartref newydd.

 

Mae www.ukrainianswelcome.org yn wefan sy'n cynnwys llinellau cymorth, cyngor a gwybodaeth pwysig.  

 

Cyhoeddiadau

Cyhoeddwyd y datganiad yma gan yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel ar Fawrth 1 2022 sy’n amlinellu newididau i’r broses fisa ar gyfer aelodau teulu, yn ogystal â llwybr dyngarol noddedig newydd ar gyfer  bobol Wcráin. Bydd hyn yn cynnig ffordd o gyrraedd y DU i bobl Wcráin nad oes ganddynt gysylltiadau teuluol o fewn y DU ond a  ellir eu paru gyda unigolion, elusennau, busnesau a grwpiau cymunedol. Mae’r cynllyn yma hefyd yn rhoi’r hawl i aros yn y DU am gyfnod cychwynnol o 12 mis, a’r hawl i weithio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

 

Hefyd ar Fawrth 1, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu £4m o gymorth ariannol a dyngarol i Wcráin a fydd yn helpu i ddarparu cymorth hanfodol i lawer o bobl sydd mewn gwir angen.

 

Llinell gymorth

Mae Barnardo’s wedi lansio llinell gymorth rhad ac am ddim i gefnogi teuluoedd o Wcráin sy’n cyrraedd y DU o Wcráin, y rhif ffôn yw 0800 148 8586. Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:00am – 8:00pm a dydd Sadwrn 10:00am – 3:00pm ac mae ar gael i unrhyw un sy’n ffoi o’r gwrthdaro yn Wcráin.  Mae siaradwyr Saesneg, Wcreineg a Rwseg yn gweithio ar y llinell gymorth a bydd y rhai sy’n galw yn gallu cael cymorth a chefnogaeth ar ystod o bynciau. Ar gyfer y rhai hynny sy’n cynorthwyo gyda’r ymateb i sefyllfa Wcráin, mae Barnardo's hefyd wedi sefydlu cyfeiriad e-bost pwrpasol ukrainiansupport@barnardos.org.uk a gwefan.

 

Sut y gallwch chi helpu

​​British-Ukrainian Aid, apêl i godi £20,000 ar gyfer meddyginiaethau wedi ei agor gan elusen sy’n helpu pobol wedi eu hanafu neu wedi gorfod ffoi.  

 

Choose Love yn apelio am gefnogaeth ar gyfer prosiectau sy’n darparu cymorth a gwasanaeth i’r rhai sydd yn parhau i fod yn Wcráin neu sy’n ffoi, gan gynnwys gofal meddygol brys, bwyd, lloches, dillad, cymorth cyfreithiol, cymorth ar gyfer y gymuned LHDTC+ s a chymorth iechyd meddwl.

 

Committee to Protect Journalists (CPJ) yn galw am gefnogaeth i’w gwaith yn amddiffyn newyddiadurwyr yn Wcráin yn dilyn y goresgyniad.

 

Help Ukraine Emergency Appeal ar ran  Cymdeithas Wcráin ym Mhrydain. Mae’r apêl yn cael ei chefnogi gan sawl mudiad Wcráin yn y DU.

 

Mae modd cefnogi newyddiaduriaeth cyfrwng Saesneg yn Wcráin drwy gyfrannu i’r Kyiv Independent unai drwy gyfrif Patreon neu GoFundMe.

 

Bydd apêl Achub y Plant yn galluogi ymateb cyflym i ddarparu cymorth dyngarol i blant a’u teuluoedd, gan gynnwys arian, offer glendid ac addysg diogel. Mae’r dudalen yma’n cynnig cyngor ar sut i siarad am ryfel gyda phlant.

 

Ysgrifennwch at eich AS: Dyma awgrym o ffurf llythyr gan Sefydliad Wcráin Llundain. Defnyddiwch y dolenni i ddod o hyd i’ch Aelod Seneddol a Senedd.

 

Mae International Rescue Committee yn apelio am roddion brys i helpu teuluoedd mewn ardaloedd o wrthdaro ar drws y byd, gan gynnwys Wcráin.

 

Mae Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch yn ymateb i anghenion dyngarol brys i sicrhau dŵr glân i dros 3 miliwn o bobol a gwella amodau byw i’r rhai mewn cartrefi sydd wedi eu difrodi gan ymladd.

 

Mae’r UNHCR yn cefnogi ffoaduriaid o Wcrâin drwy ddarparu lloches brys, a chymorth cymunedol a chymdeithasol yn Wcráin a gwelydd cyfagos.

 

Manylion galwad ar y cyd gan 50 elusen am weithredu a chymorth.

 

Cymru dros Heddwch yn yr Wcráin - Welsh Centre for International Affairs.


Os oes gennych wybodaeth am sefyllfa neu angen am gymorth ymysg pobol o Wcráin sydd yng Nghymru cysylltwch â WSMPCentralAdmin@wlga.gov.uk neu anne.hubbard@wlga.gov.uk

 

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30