CLILC

 

Trafnidiaeth

Mae’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gludiant, ffyrdd, strydoedd a thrafnidiaeth. Ystyr ‘trafnidiaeth’ yn y cyd-destun hwn yw adeiladu a chynnal a chadw’r priffyrdd, cynnal a chadw pontydd ac adeiladau perthnasol eraill, diogelwch y ffyrdd, cludiant cyhoeddus, teithio trwy gerdded a seiclo, cludiant cymunedau, cynllunio, rheoli trafnidiaeth, rheoli tagfeydd a chydlynu cyfleustodau er nad rhestr gynhwysfawr mo hon.

Mae’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am 32,000 km o ffyrdd yng Nghymru (95% o’r ffyrdd i gyd achos mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y cefnffyrdd a’r traffyrdd).

I gadw at y gyfraith, rhaid i bob cyngor weithio ar y cyd â chwmnïau cludiant (bysiau a threnau), maes adeiladu, cyrff cynllunio, cyfleustodau, grwpiau cludiant ac, yn anad neb, â’i gilydd.

Mae’r awdurdodau lleol yn rheoli Grant Cynorthwyo’r Gwasanaethau Bysiau a Chynllun y Tocynnau Mantais sy’n cynnig cymorth i gwmnïau bysiau. Maen nhw’n parhau i gydweithio â chwmnïau, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas y Cludiant Cymunedol a chyrff cysylltiedig eraill i gynnal rhwydwaith bysiau er llesiant economaidd cymunedau ledled y wlad.

Yn sgîl Deddf Teithio’n Weithgar Cymru 2013, rhaid i’r awdurdodau lleol gynnig llwybrau cerdded a seiclo a hyrwyddo teithio o’r fath. Maen nhw’n cydweithio â Llywodraeth Cymru i’r perwyl hwnnw.


Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru: adroddiad rhagarweiniol ar gyfer Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Adolygiad o’r problemau sy’n gysylltiedig â ffyrdd preifat ac argymhellion ynghylch sut i ymdrin â nhw. Gallwch ddarllen mwy yma


Links:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

https://www.wlga.cymru/transport