CLILC

 

Telerau Defnyddio

Hawlfraint

WLGA sy'n berchen ar hawlfraint y deunydd sydd ar ei gwefan, oni nodir fel arall. Cedwir pob hawl.Chaiff neb gopïo gwefan WLGA, na rhan ohoni, heb gael caniatâd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ymlaen llaw, ac eithrio:

(a) awdurdod sy'n aelod o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, neu

(b) lle mae'r deunydd i'w ddefnyddio i ddibenion addysg neu ymchwil ac (i) mae'r ffynhonnell wedi'i henwi a (ii) does dim tâl wedi'i godi ar y sawl y gofynnodd amdano ar wahân i gostau rhesymol ei anfon ato.

Preifatrwydd

Cewch chi gyrchu ein tudalen hafan a phori'r rhan fwyaf o'r wefan gyhoeddus heb fewngofnodi na defnyddio cyfrinair. Dim ond i aelodau WLGA mae peth gwybodaeth ar gael, fodd bynnag, ac efallai y bydd rhaid defnyddio cyfeiriad parod (cookie) fel y gallwn ni wirio manylion y sawl sydd am gyrchu gwybodaeth o'r fath.

Mae gwybodaeth fwy cynhwysfawr am breifatrwydd ar ein tudalen 'Polisi Preifatrwydd'.

Aelodaeth:Hawl i ddefnyddio'r wefan

Mae aelodaeth o Ragorwyd WLGA ar gael i bob un o gynghorwyr a swyddogion cyfredol awdurdodau lleol Cymru ac awdurdodau'r heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, a'r parciau cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'ch enw defnyddio a'ch cyfrinair yn eich galluogi i gyrchu'r Rhagorwyd. Peidiwch â rhoi'r manylion i neb arall. Un o'r amodau defnyddio yw na ddylech chi roi'r cyfryw fanylion i unigolion na chyrff nad ydyn nhw'n aelodau o WLGA.

Os yw'r cyfeiriad ebost yn rhan o barth awdurdod lleol, byddwn ni'n anfon neges brawf yn rheolaidd i ofalu ei fod yn ddilys o hyd. Os nad yw'r neges yn cyrraedd, byddwn ni'n anfon neges arall. Os nad yw honno'n cyrraedd, chwaith, byddwn ni'n dileu'r cyfrif dan sylw yn syth.

Os yw'r cyfeiriad ebost yn rhan o barth arall (e.e. eich cartref chi), byddwn ni'n holi'r sefydliad perthnasol yn rheolaidd i ofalu eich bod chi'n dal yn aelod ohono.

Aelodaeth: Cylchoedd trafod

Mae ffora'r wefan yma ar gyfer trafodaethau rhwng amryw gylchoedd o swyddogion neu gynghorwyr. Fe fydd rhai ffora ar gael i aelodau'r Rhagorwyd i gyd a bydd eraill ar gael i gylchoedd penodol yn unig - trwy wahoddiad, fel arfer. Mae rhai ffora ar gael i bobl na chân nhw fod yn aelodau o'r Rhagorwyd fel arall.

O gyfrannu i'r trafodaethau, rhaid cadw at y safonau arferol ynghylch deunydd gweddus. Bydd WLGA yn dileu unrhyw ddeunydd mae'n ei ystyried yn enllibus, yn hiliol, yn groes i gydraddoldeb merched a dynion, yn anweddus neu'n annerbyniol mewn unrhyw ffordd arall fel y gwêl yn dda, ac efallai y bydd yn gwahardd y sawl a'i anfonodd rhag cymryd rhan yn y fforwm neu gyrchu'r Rhagorwyd hefyd. O gymryd camau o'r fath, y weithdrefn arferol yw rhoi gwybod i awdurdod neu sefydliad y sawl dan sylw hefyd.

O gyfrannu i'r ffora, ddylech chi ddim defnyddio enw rhywun arall neu ffugenw. O atodi dogfen i'ch neges, eich cyfrifoldeb chi fydd cael unrhyw ganiatâd y bydd ei angen i'w gyhoeddi lle bo'n briodol, a byddwn ni'n tybio eich bod chi wedi cael caniatâd o'r fath.

Bydd WLGA yn ystyried ceisiadau gan gynghorwyr neu swyddogion o'r awdurdodau sy'n perthyn iddi ynghylch creu ffora ychwanegol. Mae modd cyflwyno cais o'r fath trwy anfon ffurflen adborth. RHAID i'r sawl sy'n gofyn am fforwm ychwanegol fod yn aelod o'r Rhagorwyd.

Ymwadiad

Mae'r Gymdeithas wedi cymryd pob gofal i wneud yn siwr bod yr wybodaeth sydd ar ei gwefan yn gywir, er na all dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am wallau. Fydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled na niwed o ganlyniad i ddefnyddio'r deunydd sydd ar ei gwefan. Fydd WLGA ddim yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan arall mae dolenni ei gwefan yn cysylltu â nhw.

https://www.wlga.cymru/terms-of-use