CLILC

 

Cefnogi Capasiti a Datblygiad Corfforaethol

  • Paneli Galluogrwydd Corfforaethol i Gyfoedion - 0.5 diwrnod o sesiynau o bell (a diwrnodau ychwanegol yn ôl y gofyn) i hwyluso trafodaeth agored a chydweithredol am strategaeth a galluogrwydd corfforaethol

 

  • Cefnogaeth Galluogrwydd Corfforaethol o Bell i Gyfoedion - cynnig 2 ddiwrnod o gefnogaeth o bell i weithio gydag awdurdod ar agwedd benodol o alluogrwydd corfforaethol, yn enwedig (ond nid yn unig) mewn perthynas â materion y mae’n rhaid i brif weithredwyr barhau i’w hadolygu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (h.y. cynllunio ariannol, rheoli asedau, rheoli risg ac asedau)

 

  • Hwyluso digwyddiadau cyfnewidfa arfer da a dysgu sector, yn cynnwys trwy’r Rhwydwaith Trawsnewid

 

  • Datblygu arweinyddiaeth a gweithlu - gweithio gyda Chymdeithas Trysoryddion Cymru a Rhwydwaith Cyfarwyddwyr AD er mwyn adnabod blaenoriaethau hyfforddiant a datblygu ar gyfer gweithlu llywodraeth leol er mwyn mynd i’r afael â bylchau mewn sgiliau, anghenion cynllunio olyniaeth a rheoli talent

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cymorth, cysylltwch â Thîm Gwella CLlLC:

Gwelliant@wlga.gov.uk

 

https://www.wlga.cymru/supporting-corporate-capacity-and-development