CLILC

 

Swyddogaeth strategol

Mae rôl strategol yr awdurdodau lleol ynglŷn â thai yn ymwneud ag asesu anghenion, pennu blaenoriaethau lleol a chynllunio ar gyfer tai fforddiadwy o safon. 

Mae’r awdurdodau lleol yn cydweithio â landlordiaid o bob math ac amrywiaeth helaeth o bartneriaid i ofalu y bydd ym mhob ardal:

  • sector perchennog-ddeiliad cynaladwy
  • sector rhentu preifat sydd o ansawdd da, yn cael ei reoli'n dda ac yn ffynnu
  • tai cymdeithasol o ansawdd da sy’n cael eu rheoli’n effeithlon ac effeithiol

Yn ogystal, mae gan awdurdodau lleol nifer o strategaethau eraill ar waith er mwyn darparu fframwaith i’w gweithgareddau tai. Fe fydd y rhain yn cynnwys y Strategaeth Ddigartrefedd, y Gymuned Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a Chynllun Gweithredol Cefnogi Pobl. Bydd y strategaethau hynny, yn eu tro, yn rhan o’r fframwaith strategol ehangach sydd wedi’i lunio o ganlyniad i’r cynllun datblygu lleol a strategaeth y gymuned.

Canllaw Cam wrth Gam - Dechrau ar eich arweiniad i asesiad o'r farchnad dai leol

Darparu awdurdodau lleol gyda methodoleg ymarferol i gyflawni Asesiad o’r Farchnad Dai Leol.

Mae’r arweiniad yma yn atodiad i arweiniad Llywodraeth Cymru dros Asesu Marchnad Dai Lleol 2006 i drefnu dynesiad mesurol i gyfrifo angen o ran tai ac asesiad o’ farchnad tai lleol a allai ei ddefnyddio yn gyson ar draws llywodraethau lleol. Mae’n anelu at helpu awdurdodau i gyflawni asesiad ei hunan o’r farchnad tai ac i ddarparu man cychwyn i adeiladu dealltwriaeth mwy soffistiedig o’r farchnad tai lleol.

Mae’r arweiniad yn defnyddio’r cydweddiad “dwr baddo” a ddatblygwyd gan Glen Bramley i helpu dealltwriaeth gan an-broffesiynwyr ac mae’n cynwys cysylltiadau byw i setiau data a tarddiadau data eilaidd. Mae’r atodiad hefyd yn darparu trosolwg o’r tarddiadau setiau data sydd yn ddefnyddiol ac ar gael.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

 

https://www.wlga.cymru/strategic-role