CLILC

 

Ymchwiliadau pwyllgorau’r Senedd

Mae gan y Senedd nifer o bwyllgorau sy’n cynnal cyfarfodydd casglu tystiolaeth ar bynciau penodol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn cynnwys Aelodau o'r Senedd penodedig (AS) o’r gwahanol bartïon.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn derbyn gwahoddiadau gan y pwyllgorau i fynychu cyfarfodydd er mwyn cyflwyno barn llywodraeth leol ar wahanol bynciau, er enghraifft:

  • cyfraith newydd arfaethedig y Senedd (Mesur);
  • craffu ôl-ddeddfwriaethol ar ddeddfau cyfredol y Senedd.
  • penderfyniadau polisi a wneir gan Lywodraeth Cymru; neu
  • mater (ymholiad) sydd o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor.

Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at waith pwyllgorau'r Senedd gan ei bod yn debygol y bydd goblygiadau i lywodraeth leol yn ddiweddarach, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae’r CLlLC yn aml yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig cyn mynychu, sy’n cael ei pharatoi yn dilyn ymgynghoriad a phartïon perthnasol o fewn ac oddi allan i lywodraeth leol. Daw’r dystiolaeth hon yn sail i drafodaethau gyda’r Aelodau o'r Senedd sy’n eistedd ar y pwyllgor ar y diwrnod.

Daw cynrychiolaeth CLlLC mewn cyfarfod pwyllgor o blith y canlynol:

  • Llefarwyr CLlLC
  • Aelodau Cabinet â chyfrifoldebau portffolio
  • Uwch Swyddogion Awdurdod Lleol
  • Uwch Swyddogion CLlLC
  • Ymgynghorwyr CLlLC

Mae CLlLC hefyd yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer pwyllgorau mewn ymateb i:

  • gwestiynau ysgrifenedig penodol perthnasol i lywodraeth leol a godwyd mewn cyfarfodydd pwyllgor a ble gofynnwyd am ymateb gan CLlLC;
  • ymarfer ymgynghori ar ran pwyllgor i gefnogi ymholiad neu gyfraith newydd; neu
  • gwybodaeth ychwanegol at ymholiad sydd ar y gweill neu gyfraith newydd  

Mae rhagor o wybodaeth am dystiolaeth ysgrifenedig CLlLC i r Senedd ar gael o’r ddewislen gyferbyn neu drwy ymweld â thudalennau ein gwefan ar Ddeddfwriaeth a DeddfwriaethCraffu ôl Ddeddfwriaethol


Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams

https://www.wlga.cymru/senedd-committee-inquiries