CLILC

 

Adnoddau - Symudedd a thrafnidiaeth

Rhoddodd Living Streets a Cycling UK gyflwyniad ar sut y gall y trydydd sector helpu i ddarparu Teithio’n Weithgar yn y gweithle ac yn y gymuned. Maent yn archwilio sut y mae da yn edrych ac yn rhannu enghreifftiau o ymyriadau newid ymddygiad sy’n gweithio ac ymgyrchoedd sydd wedi achosi newid fel y gallwn sicrhau’n well bod ymyriadau teithio’n weithgar yn gweithio i bawb a allai eu defnyddio.

Cyflwyniad ar gael yma 

 

Rhoddodd Cyngor Dinas Nottingham gyflwyniad ar drosglwyddo fflyd eu cyngor i gerbydau trydan. Ar hyn o bryd mae ganddynt 142 o gerbydau fflyd trydan ar waith, o ddim ond dau EV bedair blynedd yn ôl yn dilyn Strategaeth Trydaneiddio Fflyd gynhwysfawr wrth iddynt symud ymlaen yn gyflym i gyrraedd eu targedau.

Cyflwyniad ar gael yma

 

Rhoddodd Cyngor Sir Penfro gyflwyniad ar y Milford Haven:Energy Kingdom, prosiect sy’n archwilio sut allai fod system ynni sy’n seiliedig ar hydrogen ac ynni adnewyddadwy ar gyfer Dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae'r prosiect yn cynnal cynllun peilot ar gerbydau celloedd tanwydd hydrogen.

Cyflwyniad ar gael yma

 

Darparodd Cyngor Sir Ynys Môn a Menter Môn drosolwg o’r hwb hydrogen yng Nghaergybi, a sut y bydd hyn yn helpu i ddatgarboneiddio trafnidiaeth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Cyflwyniad ar gael yma

 

Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar eu prosiect Canolfan Weithrediadau newydd sy'n ymgorffori dylunio cynaliadwy ac ynni adnewyddadwy i gefnogi'r cyngor ar ei daith i ddatgarboneiddio ei fflyd.

Cyflwyniad ar gael yma


 

https://www.wlga.cymru/resources-mobility-and-transport