CLILC

 

Adnoddau – Effaith Dim Cytundeb ar Gymru

Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' – Gweler yr adroddiad yma 

Cyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

  • Adolygiad o'r trefniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru i reoli goblygiadau, risgiau a chyfleoedd Brexit

Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' – Gweler y gweminar yma (Saesneg yn unig) 

  • Mae’r gweminar hon yn dilyn yr adroddiad uwchben. Bydd yn cynnig ystyriaethau i swyddogion anweithredol a chynghorwyr i’w helpu wrth graffu cynlluniau Brexit eu sefydliadau.

Briffio Brexit ‘Dim Bargen’ i Gynghorau – Gweler y briffio yma (Saesneg yn unig) 

Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas Lywodraeth Leol (CLlL)

  • Papur sy’n crynhoi i gynghorau yr hyn sy’n ‘hysbys’ ac yn ‘anhysbys’ o ran y goblygiadau i lywodraeth leol mewn sefyllfa ‘dim bargen’ yn ôl cyngor cenedlaethol

Sut i baratoi os yw’r DU yn ymadael â’r UE heb fargen – Newidiadau Allweddol i Gynghorau yn sgil ‘Dim Bargen’ – Gweler y tabl yma (Saesneg yn unig) 

Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas Lywodraeth Leol (CLlL)

  • Mae’r tabl wedi ei rannu yn dri chategori yn ôl hysbysiadau technegol Llywodraeth y DU: (1) Y rhai hynny sydd yn cael effaith uniongyrchol ar gynghorau, (2) Y rhai allai gael effaith eilaidd ar gynghorau, (3) Y rhai nad yw’n ymddangos eu bod am gael unrhyw effaith uniongyrchol ar gynghorau. Mae’n manylu ar y newidiadau/cynigion a’r effeithiau/camau gweithredu allweddol

Briffio Polisi Brexit Bwyd FRC - Edrychwch ar y canllaw yma (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, ar y cyd â’r Cydweithrediad Ymchwil Bwyd

  • Canllaw i awdurdodau lleol ar baratoi ar gyfer dim bargen gyda Brexit bwyd 

Cam Olaf Brexit – Canllaw Byr – Edrychwch ar y canllaw yma (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gan Ganolfan Bingham ar Reolaeth y Gyfraith a’r DU mewn Ewrop Newidiol

  • Yn rhoi crynodeb o beth sydd angen digwydd yn y DU a’r UE er mwyn cwblhau’r broses Brexit, a beth allai atal y broses honno ar hyd y ffordd

Crynodeb o Weithdai Cynllunio Senarios Ymadael â’r UE – Gallwch weld yr adroddiad yma

Cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru

  • O ran amaeth, mae’r gweithgareddau allweddol sydd wedi'u nodi o fod mewn risg yn cynnwys ffermio defaid a physgodfeydd, tra disgwylir i ffermio llaeth, ieir a bîff fod yn fwy gwydn. Disgwylir i brisiau bwyd gynyddu o dan yr holl sefyllfaoedd a ystyrir

Cyfnod Pontio’r UE a Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru – Gallwch weld yr adroddiad yma (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gan Uned Ymchwil i Economi Cymru (Prifysgol Caerdydd)

  • Astudiaeth yn asesu'r rhagolygon ar gyfer busnesau yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2017

Canlyniadau Rhagarweiniol: % Newid mewn GVA (Gwerth Ychwanegol Gros) rhanbarthol Cymru, Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA), Cytundeb Masnach Rydd (FTA) a Sefydliad Masnach y Byd (WTO) - Gallwch weld y canfyddiadau yma (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gan Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin dros Ymadael â’r UE

  • Mae lleihad cyffredinol a argymhellir mewn GVA yng Nghymru yn amrywio o -2% (EEA) i 10% (WTO)

Effeithiau Economaidd Lleol Brexit – Gallwch weld yr adroddiad yma (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gan Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain / Canolfan Perfformiad Economeg

  • Mae’r dadansoddiad yn cynnwys Brexit Meddal a Brexit Caled
  • Mae Atodiad 2 (ar dudalen 15) yn rhoi rhagolwg o effaith dechreuol Brexit ar Awdurdodau Lleol (% newid Gwerth Ychwanegol Gros) 

Log Effaith Brexit – Gallwch weld y log yma (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd gan Gyngor Sir Penfro


Mae CLlLC wedi datblygu rhestr wirio ar gyfer awdurdodau lleol i’w ddefnyddio i asesu eu risgiau allweddol.

Gallwch weld y Pecyn gwaith parodrwydd am Brexit CLlLC/Grant Thornton yma

Mae’r math o faterion y bydd yn anelu i’w cynnwys wrth ystyried sut fyddai Dim Cytundeb / y Sefyllfa Waethaf Bosibl yn digwydd yn lleol wedi eu hamlinellu fel a ganlyn:

  1. Archwiliad Gweithlu (Mewnol/Contract) (Sawl gweithiwr UE nad ydynt o’r DU sydd yn y gweithlu? Unrhyw weithwyr allweddol/arbenigol? Beth yw eu cynlluniau?)Effaith o golli cyllid yr UE ar brosiectau presennol a’r rhai a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol
  2. Asesiad effaith ar economi lleol – Nodi a deall cynlluniau buddsoddi cwmnïau lleol (yn arbennig yn y sectorau sydd ‘mewn risg’) ac ystyried unrhyw faterion contract gwasanaeth a darparu sy’n codi o hynny (yn cynnwys effaith ar ddeiliadaeth busnes mewn unedau sy’n berchen i’r awdurdodau lleol)
  3. Ystyried effeithiau ar bob gwasanaeth (Er enghraifft: Defnyddio adroddiadau penodol i bob sector e.e. Briffio Conffederasiwn GIG Cymru – Y materion allweddol ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i’r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd (Gweler yma) a thynnu, lle mae’n briodol ar Hysbysiadau Parodrwydd yr UE (Gweler yma) a Chanllaw Dim Cytundeb y Llywodraeth – Sut i baratoi os yw’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb (Gweler yma)
  4. Trefniadau sefydliadol newydd – Goblygiadau? (Er enghraifft: cynlluniau ar gyfer corff amgylchedd annibynnol newydd i gymryd lle'r Comisiwn Ewropeaidd a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd o ran gorfodi/cwynion)
  5. Adolygu cynlluniau Argyfwng (Er enghraifft: Delio â materion megis prinder bwyd, materion cyflenwad ynni ac aflonyddwch sifil)
  6. Trafodaethau gyda phartneriaid i ddeall eu materion (Iechyd, AB/AU, Sector Gwirfoddol)
  7. Effaith ar gludiant (Er enghraifft: Amhariad ar gludiant lleol ar y ffyrdd i’r porthladdoedd)
  8. Sicrwydd cyfreithiol (Pa offerynnau statudol sydd angen bod mewn lle i roi sicrwydd cyfreithiol unwaith fydd cyfraith yr UE yn dod i ben a pha gynnydd a wneir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru)
  9. Goblygiadau ariannol (os fydd economi’r DU yn chwalu bydd grant bloc Cymru yn disgyn a bydd angen i amcangyfrifon ariannol gael eu lleihau yn unol â hynny)
  10. Safonau a thargedau (Ar hyn o bryd, caiff y rhain eu pennu ym Mrwsel, ond beth fydd yn cymryd eu lle ac a fydd pwysau i leihau safonau?)


 

https://www.wlga.cymru/resources-impact-of-no-deal-for-wales