Adnoddau – Effaith Dim Cytundeb ar Gymru

 










Mae CLlLC wedi datblygu rhestr wirio ar gyfer cynghorau i’w ddefnyddio i asesu eu risgiau allweddol. Mae’r math o faterion y bydd yn anelu i’w cynnwys wrth ystyried sut fyddai Dim Cytundeb / y Sefyllfa Waethaf Bosibl yn digwydd yn lleol wedi eu hamlinellu fel a ganlyn:

 

  • Archwiliad Gweithlu (Mewnol/Contract) (Sawl gweithiwr UE nad ydynt o’r DU sydd yn y gweithlu? Unrhyw weithwyr allweddol/arbenigol? Beth yw eu cynlluniau?)Effaith o golli cyllid yr UE ar brosiectau presennol a’r rhai a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol
  • Asesiad effaith ar economi lleol – Nodi a deall cynlluniau buddsoddi cwmnïau lleol (yn arbennig yn y sectorau sydd ‘mewn risg’) ac ystyried unrhyw faterion contract gwasanaeth a darparu sy’n codi o hynny (yn cynnwys effaith ar ddeiliadaeth busnes mewn unedau sy’n berchen i’r awdurdodau lleol)
  • Ystyried effeithiau ar bob gwasanaeth (Er enghraifft: Defnyddio adroddiadau penodol i bob sector e.e. Briffio Conffederasiwn GIG Cymru – Y materion allweddol ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i’r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd (Gweler yma) a thynnu, lle mae’n briodol ar Hysbysiadau Parodrwydd yr UE (Gweler yma) a Chanllaw Dim Cytundeb y Llywodraeth – Sut i baratoi os yw’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb (Gweler yma)
  • Trefniadau sefydliadol newydd – Goblygiadau? (Er enghraifft: cynlluniau ar gyfer corff amgylchedd annibynnol newydd i gymryd lle'r Comisiwn Ewropeaidd a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd o ran gorfodi/cwynion)
  • Adolygu cynlluniau Argyfwng (Er enghraifft: Delio â materion megis prinder bwyd, materion cyflenwad ynni ac aflonyddwch sifil)
  • Trafodaethau gyda phartneriaid i ddeall eu materion (Iechyd, AB/AU, Sector Gwirfoddol)
  • Effaith ar gludiant (Er enghraifft: Amhariad ar gludiant lleol ar y ffyrdd i’r porthladdoedd)
  • Sicrwydd cyfreithiol (Pa offerynnau statudol sydd angen bod mewn lle i roi sicrwydd cyfreithiol unwaith fydd cyfraith yr UE yn dod i ben a pha gynnydd a wneir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru)
  • Goblygiadau ariannol (os fydd economi’r DU yn chwalu bydd grant bloc Cymru yn disgyn a bydd angen i amcangyfrifon ariannol gael eu lleihau yn unol â hynny)
  • Safonau a thargedau (Ar hyn o bryd, caiff y rhain eu pennu ym Mrwsel, ond beth fydd yn cymryd eu lle ac a fydd pwysau i leihau safonau?)

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30