Mae 15% o gartrefi Cymru yn perthyn i landlordiaid preifat bellach, a bydd cymaint o gartrefi preifat â thai cymdeithasol ar osod cyn bo hir. Er bod landlordiaid preifat yn bartneriaid pwysig i fyd llywodraeth leol, mae tuedd i’w hesgeuluso, ond mae rôl hanfodol iddyn nhw o ran atal digartrefedd a chynnig tai o safon y caiff teuluoedd eu prynu neu eu rhentu.
Un o flaenoriaethau WLGA ers tro bellach yw gwella ansawdd a fforddiadwyedd cartrefi mae landlordiaid preifat yn eu cynnig, a hynny trwy brosiect gwella cysylltiadau â landlordiaid o’r fath. Prif nod y prosiect yw helpu awdurdodau lleol i feithrin perthynas â landlordiaid preifat a gwella ansawdd a fforddiadwyedd cartrefi maen nhw’n eu cynnig. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect trwy ei ariannu.
Dechreuodd y prosiect yn 2009 ac mae wedi cyflawni nifer o orchwylion megis:
- Llunio pecyn i helpu awdurdodau lleol i’w hasesu eu hunain
- Cydweithio â chynghorwyr a staff pob awdurdod i’w helpu i ddeall rôl landlordiaid preifat, paratoi cynllun corfforaethol i wella’r cysylltiadau â nhw a’i roi ar waith
- Llunio templedi a chanllawiau i helpu i wella’r cysylltiadau hynny, gan gynnwys paratoi cynlluniau ymgysylltu â landlordiaid preifat
- Tynnu sylw at arferion effeithiol
- Tynnu sylw at gyhoeddiadau o bwys sydd ar y we
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle