Data a Thechnoleg
Mae'r rhaglen hon yn cefnogi cynghorau Cymru yn agweddau data a thechnoleg o drawsnewid digidol. Mae hyn yn cynnwys helpu arweinwyr digidol a thechnegol i nodi ffyrdd dibynadwy, ymarferol a chost-effeithiol i sicrhau bod yr atebion technoleg y maent yn eu defnyddio yn cyflawni gwelliannau i wasanaethau ac yn diwallu anghenion defnyddwyr.
Mae ein gweithgareddau rhaglen bresennol yn cynnwys datblygu canllawiau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial, seiberwydnwch, defnyddio data, dinasoedd clyfar / rhyngrwyd pethau, a chyfieithu a dehongli awtomataidd.
Gwasanaethau Digidol
Pwrpas y rhaglen gwasanaethau digidol yw helpu cynghorau Cymru i fanteisio ar alluoedd a dulliau digidol i ddatblygu a gwella gwasanaethau. Ei nod yw helpu cynghorau i greu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar anghenion cwsmeriaid, eu dilysu'n gynnar a'u hailadrodd yn rheolaidd i leihau risg a sicrhau'r gwerth mwyaf posibl.
Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cynnwys prosiectau'r Gronfa Trawsnewid Digidol sy'n edrych ar wella gwasanaethau a gofal cymdeithasol, yn ogystal â phrosiectau a gweithgareddau craidd a ddewiswyd drwy ymgysylltu â chynghorau. Mae'r rhain yn cynnwys adeiladu pecyn cymorth i alluogi swyddogion antechnegol y cyngor i gynnal profion defnyddioldeb, a datblygu platfform lle gellir rhannu arfer da a gwybodaeth.
Pobl a sgiliau
Nod y rhaglen pobl a sgiliau yw cefnogi cynghorau i weithredu diwylliant digidol, gwneud y mwyaf o effaith eu pobl ar wella gwasanaethau, a galluogi cwsmeriaid i fanteisio'n llawn ar y gwasanaethau gwell hynny.