Mae Cylch Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru yn gymuned ddysgu broffesiynol ac ynddi brif swyddogion ieuenctid 22 awdurdod lleol y wlad. Ystyr ‘prif swyddog ieuenctid’ yw’r sawl mae pob awdurdod lleol wedi’i benodi i arwain ei wasanaeth ieuenctid yn strategol.
Rôl hirsefydlog y cylch yw:
- cynghori am ddatblygu a chynnal gwasanaethau ieuenctid a mentrau cysylltiedig eraill yn strategol, ar ran awdurdodau lleol Cymru
- cyfrannu mewn modd pwyllog, cydlynol a phroffesiynol at ddatblygiad gwasanaethau ieuenctid a mentrau cysylltiedig yng Nghymru
Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion
Mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion yn gosod yr egwyddorion allweddol sy'n tanategu gwaith ieuenctid ac yn rhoi trosolwg o'i natur, dibenion a chyflenwi. Mae’r ddogfen hon wedi’i llunio ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau etholedig a swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid.
Holl cyhoeddiadau gan Cylch Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie