Cyngor Partneriaeth Cymru

Diben Cyngor Partneriaeth Cymru yw hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

 

Bydd Cyngor Partneriaeth Cymru (y Cyngor Partneriaeth) yn darparu atebolrwydd ac arweiniad gwleidyddol i’r gwaith o ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus a’r cydweithrediad rhyngddynt, ac yn ysgogi’r broses o wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.  

 

Yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol fydd yn cadeirio’r Cyngor Partneriaeth, prif gyfrifoldebau’r Cyngor yw:

 

  • annog deialog rhwng Gweinidogion Cymru a llywodraeth leol ar faterion sy’n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, yn unol ag Adrannau 72 a 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
  • darparu atebolrwydd gwleidyddol cyfun ar gyfer camau i wneud y gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon.

 

Cliciwch yma i weld aelodau’r Cyngor a phapurau.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30