Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol – Rheoli Pwysau

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corff yn gweithredu yn ôl arferion gorau’r Deyrnas Gyfunol, tystiolaeth gyfoes berthnasol a safonau gwladol.  Llywodraeth Cymru sy’n cynnal y cynllun ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol.

 

Prif nodau’r cynllun

  • Rhoi cyfleoedd i bobl ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol yn y gymuned yn ôl eu gallu ac yn unol â’r safonau gwladol.
  • Cynnig cynghorion priodol am faetheg ar y cyd ag ymborthegwyr a/neu gylchoedd achrededig ym maes colli pwysau.
  • Hyrwyddo’r syniad o golli pwysau mewn modd iach er lles meddwl a chorff pob client.
  • Cryfhau tuedd pob client i ymarfer am weddill ei einioes.

 

Meini Prawf Derbyn

Mae’r cynllun ar gyfer clientiaid ac iddynt sgôr dros 30 yn ôl mynegai màs y corff lle bo angen colli pwysau ac ymarfer.

 

Bydd angen i arbenigwr iechyd eu hasesu a’u hatgyfeirio i ofalu y byddan nhw’n addas i gynllun yn y gymuned ac wedi cytuno i fynychu cwrs maetheg ‘Foodwise4 Life’ am wyth wythnos. Efallai y bydd rhai wedi defnyddio gwasanaethau ymbortheg neu’n parhau i’w ddefnyddio.  Os felly, cofnodir hynny ar y ffurflenni atgyfeirio.


Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk


 

Cyflwyno Rhaglen Foodwise am Oes

Mae 'Foodwise am Oes' yn rhaglen wyth wythnos sydd wedi’i llunio gan ymborthegwyr yn y gymuned. Mae’n addas i’w chynnal gan bobl sydd wedi’u hyfforddi yn ôl Lefel 2 Agored Cymru ac wedi mynd i ddiwrnod hwyluso o dan oruchwyliaeth ymborthegwyr. Bydd ymborthegwyr yn archwilio gwaith tiwtoriaid ar gyfer diogelu ansawdd, hefyd.

Mae’r rhaglen ar gael yn ardaloedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol sy’n ymwneud â rhaglen colli pwysau’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar yr amod bob pobl wedi mynychu’r sesiynau ymarfer.

 

Foodwise am Oes

Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30