Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol: Iechyd Y Meddwl

Mae Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ymarfer Corff yn gweithredu yn ôl arferion gorau’r Deyrnas Gyfunol (tystiolaeth gyfoes berthnasol) a safonau gwladol. Llywodraeth Cymru sy’n cynnal y cynllun ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol.  Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â phartneriaeth timau iechyd y meddwl yn y gymuned a staff y cynllun.

 

Prif nodau’r cynllun:

  • Cynnig – yn ôl safonau gwladol – gyfleoedd i ymarfer mewn modd diogel ac effeithiol yn y gymuned i ddiwallu anghenion clientiaid a chanddynt broblemau parhaus iechyd y meddwl
  • Cynnig cynghorion priodol am ffordd iach o fyw ar y cyd â thimau iechyd y meddwl yn y gymuned
  • Hyrwyddo a gwella lles iechyd a chorff pob client
  • Cryfhau tuedd pob client i ymarfer am weddill ei einioes

Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30