CLILC

 

Ymarfer corff ar ôl Ymyrraeth Strôc NERS

Trawiad ar yr ymennydd sy’n achosi’r rhan fwyaf o anableddau cymhleth (Adamson ac ati 2004). Mae rôl ymarfer ynglŷn a gofalu am y rhai sydd wedi cael trawiad o’r fath wedi’i chydnabod yn y canllawiau gyhoeddodd Coleg Brenhinol y Meddygon am y pwnc yn 2008. Dyma’r argymhelliad yn y bennod am ailsefydlu:

 

Ar ôl trawiad ar yr ymennydd, dylai pob claf gymryd rhan mewn hyfforddiant aerobig oni bai bod rhesymau eraill dros beidio â gwneud hynny

 

Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol yn rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn rhaglen ymarfer sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth gerbron Adolygiad Cochrane o hyfforddiant ffitrwydd i’r rhai gafodd drawiad ar yr ymennydd (Saunders ac ati 2009) a’r arbrawf (Mead ac ati 2007) i wella symudedd ac ansawdd bywydau’r cleifion. Level 4 Specialist Exercise and Fitness Training after Stroke Course lywiodd yr arbrawf hwnnw oedd wedi’i lunio gan Brifysgol y Frenhines Fererid a Phrifysgol Caeredin, a’i weinyddu gan Later Life Training.

 

Mae’r cynllun ar gyfer y rhai sydd wedi cael trawiad ar yr ymennydd ac sydd wedi’u hasesu gan arbenigwr iechyd i ofalu eu bod yn addas i gynllun cymunedol. O bosibl, bydd cleifion o’r fath yn cael triniaeth o hyd yn ogystal â chymryd rhan yn y rhaglen ymarfer. Os felly, rhaid nodi hynny ar y ffurflen atgyfeirio.

 

Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Later Life Training, Cymdeithas Freiniol y Ffisiotherapyddion, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol yn ymwneud â’r cynllun.

 

Prif nodau’r cynllun:

  1. Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion sydd wedi cael trawiad ar yr ymennydd fel y gallan nhw gymryd rhan mewn rhaglenni ymarfer corfforol
  2. Cynnig ffordd drefnus a diogel o atgyfeirio cleifion fel y gallan nhw ymarfer yn annibynnol wedyn
  3. Cynnig rhaglenni ymarfer diogel ac effeithiol sy’n diwallu anghenion cleifion
  4. Gwella’r cleifion o ran cyflwr y galon, cryfder a’r gallu i sefyll a symud yn dda
  5. Gwella gallu’r cleifion o ran gweithredu yn y byd
  6. Cynyddu hyder y cleifion
  7. Gwella pob claf o ran iechyd ei feddwl a’i les
  8. Lleddfu’r ynysu cymdeithasol ymhlith cleifion
  9. Cryfhau tuedd cleifion i gydio mewn gweithgareddau corfforol dros y tymor hir

Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk

https://www.wlga.cymru/ners-exercise-after-stroke-intervention