CLILC

 

Parciau cenedlaethol

Mae’r tri pharc cenedlaethol yn ymestyn ar draws 20% o dir Cymru. Mae dros 80,000 o bobl yn byw ynddyn nhw ac mae gweithgareddau’r tri pharc yn cyfrannu dros hanner biliwn o bunnoedd at werth ychwanegol crynswth y wlad (1.2% o’r holl economi). Maen nhw’n hanfodol i gyflwr amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y wlad. Mae’r parciau – Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri – yn enghreifftiau rhagorol o’r modd y gallwn ni ddiogelu ardaloedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Mae’r syniad hwnnw’n fwyfwy pwysig o ran cadwraeth ledled y byd.

 

Ystyr ‘cenedlaethol’ yng nghyd-destun y parciau yw eu bod o werth arbennig i bawb yn y wlad hon. Mae awdurdod pob parc cenedlaethol yn gorfforaeth annibynnol sy’n gweithredu ym maes llywodraeth leol. Ymhlith aelodau pob awdurdod, mae rhai sydd wedi’u penodi gan y Cynulliad a chynghorwyr o awdurdodau lleol sy’n berchen ar dir yn y parc.

 

Mae dau ddiben i barciau cenedlaethol:

  • cadw a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd;
  • hybu cyfleoedd i bobl ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y parciau.

 

Caiff parciau cenedlaethol wneud unrhyw beth allai eu helpu i gyflawni’r nodau hynny yn eu barn nhw. Mae arnyn nhw ddyletswydd i geisio meithrin ffyniant economaidd a chymdeithasol yr ardal heb wario llawer o arian ychwanegol, hefyd. At hynny, mae dyletswydd gyffredinol ar ‘awdurdodau perthnasol’ megis y Cynulliad a’r cyrff mae’n eu noddi i roi pob ystyriaeth i ddibenion y parciau cenedlaethol.

 

Awdurdod y parc cenedlaethol sy’n gyfrifol am faterion cynllunio yn ei ardal hefyd, ac mae gofyn i bob awdurdod gyhoeddi cynllun datblygu a rheoli sy’n amlinellu ei amcanion a’i bolisïau strategol ar gyfer rheoli’r parc. Dylai pob corff sydd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar ddatblygiad y parc roi ystyriaeth i’r cynllun ac fe ddylai fod cyswllt cryf rhwng y cynllun hwnnw a chynlluniau eraill mae partneriaethau wedi’u llunio yn yr ardal megis cynlluniau cyfun unffurf a chynlluniau llesiant.

 

Cadw a gwella prydferthwch naturiol:

Y farn draddodiadol yw bod parciau cenedlaethol yn ymwneud â chadwraeth a’r amgylchedd. Dyma un o’u cyfrifoldebau pwysicaf ac mae gyda nhw brofiad ac arbenigedd helaeth yn hyn o beth. Mae’r rhan fwyaf o dir y parciau cenedlaethol yn nwylo perchnogion preifat. Felly, mae angen i awdurdodau’r parciau annog perchnogion a thrigolion, yn arbennig ffermwyr, i gydweithio â nhw er mwyn cadw a gwella prydferthwch naturiol. Un o brif anawsterau’r parciau yw adfywio’r economi wledig mewn ffyrdd sydd o les amgylcheddol ac economaidd fel ei gilydd.  I’r perwyl hwnnw, mae’r parciau’n cynnig amryw wasanaethau ecosustem (prosesau lle mae’r amgylchedd yn cynhyrchu adnoddau y bydd eu hangen ar bobl megis dŵr ac awyr glân, bwyd a deunyddiau). Er enghraifft, maen nhw’n cadw carbon trwy fawnogydd a choedwigoedd, yn rhoi dŵr trwy nifer o gronfeydd strategol bwysig ac yn rheoli tir dalgylchoedd afonydd mewn ffyrdd sy’n helpu i osgoi llifogydd.

 

Mae cynefinoedd a rhywogaethau pwysig yn y parciau cenedlaethol. Un o ddibenion parc cenedlaethol yw diogelu bywyd gwyllt – agwedd bwysig sydd wedi’i hatgyfnerthu trwy Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’n bwysig iawn i’r parciau gydweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni amcanion cadwraeth natur. Ar ben hynny, mae’r parciau’n ymwneud â chadw’r amgylchedd adeiledig, cynnig cynghorion technegol a grantiau i berchnogion adeiladau o bwys hanesyddol i’w diogelu a’u hadfer, pennu ardaloedd cadwraeth a rhoi cynlluniau gwella ar waith. Maen nhw’n rhoi mwy a mwy o sylw i’r rhannau llai amlwg o’n treftadaeth ni hefyd, megis atgofion gwerin, cofnodion geiriol, achlysuron traddodiadol a’r iaith.

 

Hybu mwynhad a dealltwriaeth

Bydd rhyw 12 miliwn o bobl yn ymweld â thri parc cenedlaethol y wlad bob blwyddyn. Bydd bron 75% o bobl Cymru yn ymweld â pharc cenedlaethol bob blwyddyn. Mae hamdden ac ymwelwyr yn bwysig iawn i economi a sefydlogrwydd cymdeithasol cefn gwlad. Mae’r parciau’n gyfrifol am helpu ymwelwyr i fwynhau a deall eu nodweddion arbennig. Maen nhw’n gwneud hynny trwy ganolfannau ymwelwyr, llawlyfrau, rheoli safleoedd a chynnal a chadw hawliau tramwy dros 3,000 o filltiroedd eu hyd. Mae gan y parciau eu gwardeiniaid eu hunain, hefyd.

 

Bydd tua 90% o’r 12 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn yn dod gyda’r car, ac mae hynny’n ymestynnol o ran rheoli cyfleusterau a diogelu’r amgylchedd. Mae’r parciau wedi bod ar flaen y gad ynglŷn â datblygu a hybu cludiant cyhoeddus cyfun fydd yn helpu pobl i newid eu ffyrdd o deithio ac a fudd o les i economi a gwasanaethau’r ardal.

 

Lles economaidd-gymdeithasol cymunedau

Mae dyletswydd ar awdurdodau’r parciau cenedlaethol i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â dibenion parc cenedlaethol. Trwy’r ddyletswydd hon, rhaid i awdurdod pob parc ystyried materion megis tai fforddiadwy, swyddi amryfal a gwasanaethau lleol. Dim ond trwy gydweithio’n agos â’r cynghorau lleol a chyrff cyhoeddus ehangach y bydd modd cyflawni’r ddyletswydd. Mae bron 30,000 o bobl yn gweithio o fewn ffiniau’r parciau cenedlaethol ac mae 38% o’r swyddi’n ymwneud â’r amgylchedd.

 

Dylai gweithgareddau awdurdod y parc cenedlaethol a thrigolion yr ardal gydblethu. Trwy ddiogelu’r amgylchedd a helpu ymwelwyr i ddeall a mwynhau nodweddion y parc mewn ffyrdd sydd o les i drigolion yr ardal, gall awdurdod ddangos ei fod yn gweithio’n dda.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

https://www.wlga.cymru/national-parks