Llywodraeth leol yng Nghymru

Mae gan awdurdodau lleol (cynghorau) rôl hanfodol wrth lywodraethu Cymru gan eu bod yn cynnig yr arweiniad a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar eu cymunedau.  

 

Mae pwysau ariannol enfawr ar wasanaethau’r cynghorau o ganlyniad i lymder parhaus, toriadau cyllidebol creulon a threfn ariannol sydd wedi dyddio.Mae cynghorau Cymru yn cynnig dros 700 o wasanaethau lleol, gan gynnwys ym meysydd:  

  • Addysg e.e. darparu ysgolion, cludiant i ddisgyblion a chyfleoedd dysgu i oedolion
  • Tai e.e. dod o hyd i lety ar gyfer pobl mewn angen a chynnal tai cymdeithasol
  • Gwasanaethau cymdeithasol e.e. gofalu am blant, pobl hŷn a phobl anabl a'u hamddiffyn
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth gan gynnwys cynnal a chadw ffyrdd a rheoli llif traffig
  • Rheoli gwastraff gan gynnwys casglu sbwriel ac ailgylchu
  • Hamdden a gwasanaethau diwylliannol e.e. darparu llyfrgelloedd, gwasanaethau hamdden a chanolfannau celfyddydol
  • Diogelu defnyddwyr e.e. gorfodi safonau masnach a thrwyddedu tacsis.  
  • Gwasanaethau iechyd ac amgylcheddol e.e. gofalu bod bwyd diogel yn cael ei weini mewn tafarndai a bwytai'n ddiogel, a rheoli llygredd yn lleol. 
  • Cynllunio gan gynnwys rheoli datblygiadau lleol a gofalu bod adeiladau'n ddiogel. 
  • Datblygu’r economi e.e. denu busnesau newydd ac annog twristiaeth.
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau e.e. llifogydd neu ymosodiadau terfysgol.

 

Yn ogystal â rhoi gwasanaethau lleol, cynghorau yw’r cyflogwr mwyaf yn eu hardal o gryn dipyn ac maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol. 

 

Rhaid i gynghorau ddarparu rhai gwasanaethau statudol. Mae gofal cymdeithasol, iechyd yr amgylchedd, a chynllunio ymhlith y gwasanaethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu cynnig yn ôl y gyfraith. Y cynghorau sydd i benderfynu p'un a ydyn nhw am gynnig gwasanaethau eraill fel canolfannau hamdden a chelfyddydol. 

 

Maen nhw’n darparu rhai gwasanaethau naill ai’n uniongyrchol, ar y cyd â sefydliadau eraill, neu'n comisiynu cyrff eraill yn y sectorau preifat a gwirfoddol i gyflwyno gwasanaethau ar eu rhan. 

 

Nid gwneud elw yw’r prif nod i gynghorau er eu bod yn cynnig rhai gwasanaethau masnach fel arlwyo yn ogystal â gwasanaethau fel canolfannau hamdden y gall y sector preifat eu cynnig hefyd. 

 

Mae gan gynghorau ddyletswyddau statudol ehangach hefyd e.e. hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a dileu gwahaniaethu. Hefyd, mae'r gyfraith yn mynnu eu bod yn ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn ogystal â'r boblogaeth bresennol wrth ddod i bob penderfyniad.  

 

Mae cynghorau lleol yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid lleol a chenedlaethol wrth gynnig gwasanaethau, rhoi cynrychiolaeth ddemocrataidd ac arwain yn strategol. 
Bydd sawl un o'r rhain yn grwpiau cymunedol neu wirfoddol, ond maen nhw hefyd yn cydweithio â chyrff cyhoeddus neu adrannau yn y llywodraeth.

 

Mae cynghorau'n cydweithio â phartneriaid cyhoeddus fel:  

  • Awdurdodau Tân ac Achub 
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddau  
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol  
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Mae cynghorau yn cydweithio'n agos â chynghorau cyfagos wrth drefnu, comisiynu neu gyflwyno gwasanaethau ar y cyd. Drwy wneud hyn, maen nhw'n gofalu bod gwasanaethau'n cael eu cynnig yn y ffyrdd mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon. 

 

Mae’r cynghorau lleol yn cynnal partneriaethau statudol o’r enw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardaloedd, hefyd. Mae aelodau pob bwrdd o’r fath yn cynrychioli amryw sefydliadau cyhoeddus yn ogystal â mudiadau gwirfoddol a chymunedol. Ar ôl asesu llesiant, byddan nhw’n paratoi cynllun llesiant yn ystod tymor y cyngor lleol.

 

Mae’r cynghorau’n gweithio dros Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru hefyd – mae'r cyrff yma'n archwilio, yn arolygu a/ neu'n rheoleiddio awdurdodau lleol a'u gwasanaethau. Maen nhw'n llunio adroddiadau am safonau gwasanaethau, sut maen nhw'n cael eu llywodraethu, a sut maen nhw'n gwario arian y cyhoedd.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30