Ein Nod

Un o brif ddibenion WLGA yw hybu democratiaeth leol

Democratiaeth leol a llywodraethu

"Rhaid i ddemocratiaeth leol alluogi cymunedau i lunio gwasanaethau a blaenoriaethau lleol"

Mae WLGA o’r farn y bydd democratiaeth leol yn gofalu bod gwasanaethau’n cael eu cynnal o fewn fframwaith democrataidd ac iddo atebolrwydd lleol ac y dylai pobl sy’n defnyddio amryw wasanaethau cyhoeddus gael dylanwadu gymaint ag y bo modd ar ffyrdd o’u trefnu, eu rheoli a’u hariannu.

 

Cynghorau lleol yw’r haen lywodraethu agosaf at y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau ym mhob bro, ac mae yn y sefyllfa orau i ymateb i’w hanghenion. Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r strategaeth o ran gwasanaethau cyhoeddus y wlad, ond y cynghorau lleol sy’n eu cynnig yn ôl amgylchiadau lleol.

 

Mae trefniadau llywodraethu da yn hanfodol fel y bydd penderfyniadau’n dda ac yn cadw hyder pobl yn y broses ddemocrataidd leol. I lywodraethu’n dda, fe fydd gwir angen arweiniad gwleidyddol a phroffesiynol effeithiol yn ogystal â pharodrwydd i fod yn agored, gweithio ar y cyd a derbyn amheuon trwy hunanasesu a chraffu cadarn.

 

Yn ei hymdrech i hybu democratiaeth leol, mae WLGA yn ceisio dylanwadu ar bolisïau, trefniadau ariannu a deddfau fel y bydd gan y cynghorau lleol ryddid a hyblygrwydd i benderfynu ar wasanaethau yn ôl anghenion a blaenoriaethau pob bro. Rydyn ni wedi llunio nifer o ddogfennau i ddylanwadu ar bolisïau Llywodraeth Cymru megis ein adroddiad ni, 'Sicrhau Adnoddau i Wasanaethau Lleol 2020-21 - Mae ein cymunedau yn dibynnu ar lywodraeth leol'.

 

Un o brif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau llywodraeth leol, hefyd. Mae’n helpu cynghorwyr ac awdurdodau lleol i ddatblygu a chynorthwyo’r aelodau etholedig gan gynnwys llunio canllawiau a chynnal rhaglenni hyfforddi.

 

At hynny, mae WLGA yn annog pobl o bob lliw a llun i fod yn ymgeiswyr yn etholiadau lleol Mai 2022.  Mae WLGA yn ymwneud â 'Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth’ ac mae wedi datblygu gwefan Byddwch yn Gynghorydd. Sicrhewch mai chi yw'r Newid.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30