Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithio mewn partneriaeth ag Academi Wales a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Rhaglen Arwain i Gynghorwyr yng Nghymru.
Diben y rhaglen hon yw galluogi arweinyddion a chynghorwyr eraill sy’n ymwneud ag arwain i ystyried y syniadau diweddaraf ym maes arweiniad gwleidyddol a meithrin yr wybodaeth a’r medrau angenrheidiol i ateb heriau.
Un o gryfderau’r rhaglen yw ei bod yn rhoi cyfle i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol gwrdd â’u cyfatebion o gynghorau a phleidiau eraill a thrafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw.
Mae’r cyfuniad hwnnw o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arwain a thrwy profiad cyfoeswyr yn rhoi i’r cynghorwyr hyder yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o bobl y gallan nhw ymddiried ynddynt.
Bydd y Rhaglen Arwain i Gynghorwyr nesaf yn cael ei gynnal yn yr Hydref 2023.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Ann-Marie McCafferty
annmarie.mccafferty@wlga.gov.uk