CLILC

 

Ein Nod

Rhagor o dai fforddiadwy o safon ar gael

Tai

"Mae angen rhagor o bwerau buddsoddi ar gynghorau lleol Cymru i’w galluogi i adeiladu tai fforddiadwy"

Mae’n hanfodol rhoi rhagor o dai fforddiadwy o safon ar gael er lles cymunedau presennol a rhai’r dyfodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed, sef y dylai 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol fod ar gael erbyn 2021.  Yn rhinwedd eu swyddogaethau’n alluogwyr, buddsoddwyr a landlordiaid, bydd y cynghorau lleol yn cymryd rhan flaengar yn yr ymdrech.

 

Y cynghorau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion lleol o ran tai, ac ymateb iddyn nhw.

 

Mae peth cynnydd eisoes. Ers dod i gytundeb pwysig â Thrysorlys San Steffan, mae 11 o gynghorau lleol Cymru yn eu hariannu eu hunain yn llawn. O ganlyniad, maen nhw’n cael gwario’r incwm a ddaw trwy renti ar wella tai cymdeithasol.

 

Pe bai Trysorlys San Steffan yn diddymu’r uchafswm o ran faint o arian mae modd ei godi trwy fenthyciadau, gallai’r cynghorau lleol fuddsoddi rhagor fyth i helpu i ateb y galw cynyddol am dai yng Nghymru.

 

Boed atal digartrefedd, adnewyddu tai gwag ar gyfer eu defnyddio eto neu gyflawni gwaith gorfodi ynglŷn â mentrau newydd megis Rhentu Doeth Cymru, mae’r cynghorau lleol ar flaen y diwygio ym maes tai.

 

A ninnau’n cydweithio ag amryw bartneriaid megis cymdeithasau tai a landlordiaid preifat, ein nod yw gofalu bod rhagor o dai fforddiadwy o safon ar gael.

 

Rydyn ni’n gwneud hynny trwy gynnig cymorth, gwella arferion trwy ymchwil a phecynnau cyfeirio, a cheisio dylanwadu ar bolisïau Cymru ym maes tai.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://www.wlga.cymru/housing