Angladdau, Claddedigaethau ac Amlosgiad

Mae prosiect Claddedigaethau, Amlosgiad a Dulliau Angladdol Newydd Comisiwn y Gyfraith yn rhannu’r Cylch Gorchwyl a gytunwyd, a’r amserlen ar gyfer y tair elfen wahanol o waith:

 

  • Claddedigaethau ac Amlosgiad, a fydd yn edrych ar y gyfraith sy’n llywodraethu gwahanol fathau o diroedd claddu ac amlosgfeydd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried ailddefnyddio beddau. Mae’r elfen hon nawr wedi dechrau a bydd yn weithredol tan ddiwedd 2025.
  • Dulliau Angladdol Newydd, a fydd yn ystyried fframwaith reoleiddio addas ar gyfer y dyfodol i ddelio â chorff ar ôl marwolaeth, megis compostio dynol a hydrolysis alcalin. Bydd yr elfen hon yn weithredol o ddechrau 2024 tan y gwanwyn 2026.
  • Hawliau a Rhwymedigaethau yn ymwneud â Dulliau Angladdol, Angladdau a Gweddillion, a fydd yn edrych ar faterion gan gynnwys a ddylai dymuniadau unigolyn am eu corff ar ôl marwolaeth fod yn gyfreithiol rwymol, pwy ddylai gael yr hawl i wneud penderfyniadau am gyrff, ac angladdau iechyd cyhoeddus. Bydd yr elfen hon yn weithredol o ddiwedd 2025 tan ddiwedd 2027. 

Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar bob elfen o’r gwaith prosiect. 

 

Gweler tudalen we’r prosiect trwy’r ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth: Claddedigaethau, Amlosgiad a Dulliau Angladdol Newydd - Comisiwn y Gyfraith


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30