CLILC

 

Gadael Trefn Cyfrifon Cyllid y Tai

Ymgyrchodd WLGA a’r awdurdodau lleol dros ddirwyn Trefn Cyfrifon Cyllid y Tai i ben am flynyddoedd lawer. Ym mis Mehefin 2013, daeth Llywodraeth Cymru a Thrysorlys San Steffan i gytundeb o’r diwedd.  Yn ôl amodau’r cytundeb, byddai pob awdurdod lleol a chanddo dai yng Nghymru (11) yn cael gadael y drefn a dechrau ei ariannu ei hun.

Dyma rai o'r prif bwyntiau i'w nodi:

  • Byddai rhaid i bob awdurdod tai lleol roi tâl i gael gadael y drefn
  • Yn hytrach na rhoi £73 miliwn i’r Trysorlys bob blwyddyn, byddai rhaid rhoi £40 miliwn er y byddai llog ar y swm hwnnw, yn ôl gofyn y Trysorlys y dylai’r cytundeb fod yn un niwtral dros y tymor hir o safbwynt ariannol
  • Ychydig cyn y dyddiad y cytunwyd arno pan fyddai’r 11 awdurdod lleol yn gadael yr hen drefn, byddai’r Trysorlys yn pennu’r swm terfynol i’w roi fel y gallai awdurdodau tai lleol weld faint o arian y byddai angen ei gael ar fenthyg, pa fath o fenthyciad ac am faint o amser yn ôl strategaeth rheoli eu coffrau a’u cynlluniau busnes cyfredol
  • Mynnodd y Trysorlys i’r awdurdodau tai lleol godi arian ar fenthyg trwy Fwrdd Benthyciadau’r Gweithiau Cyhoeddus fel y gallen nhw roi’r taliadau terfynol iddo
  • I gadw trefn ar fenthyca yn y sector cyhoeddus, dywedodd Trysorlys EM na fyddai’r un awdurdod tai lleol yn derbyn mwy nag £1.85 biliwn ar fenthyg

Fe ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â’r 11 awdurdod ac WLGA fis Mai 2014 ynglŷn â’r taliadau terfynol a’r uchafswm.

Mae’r 11 awdurdod lleol sy’n berchen ar dai o hyd yng Nghymru yn eu hariannu eu hunain ers mis Ebrill 2015.

Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai cyfyngiadau benthyg y Cyfrif Refeniw Tai yn cael eu codi i awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol Cymru yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd beth fyddai’r dull mwyaf priodol o ddod â threfniadau gwirfoddol i ben a fydd yn lleddfu cyfyngiadau benthyg y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://www.wlga.cymru/exciting-from-the-housing-revenue-account-subsidy-system