CLILC

 

Adnoddau Cartrefi Gwag

Strategaethau cartrefi gwag

Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru strategaeth a chynllun gweithredu ynglŷn â chartrefi gwag. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi llunio strategaeth ar gyfer Cwm Taf. Mae sawl awdurdod wedi cyfuno gwaith cartrefi gwag â blaenoriaethau strategol eraill, hefyd. Er enghraifft:

  • Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyfuno gwaith tai gwag â’i fentrau i helpu pobl sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf a rhaglenni ynni effeithlon
  • Mae cynghorau Ceredigion, Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi ceisio cysylltu tai gwag â gwaith adnewyddu ardaloedd a rhaglenni adfywio ehangach
  • Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflawni amcanion ym meysydd tai a threftadaeth fel ei gilydd trwy waith tai gwag

Adnabod cartrefi gwag

I weithredu’n effeithiol ynglŷn â chartrefi gwag, rhaid i awdurdodau ofalu y bydd yn hawdd i bobl roi gwybod iddyn nhw bod tai’n wag. Cofrestr treth y cyngor yw’r man cychwyn er y gallai honno amcangyfrif nifer y tai gwag yn rhy uchel achos nad oes anogaeth i berchnogion roi gwybod i’r awdurdod os yw rhywun wedi symud i mewn. Fe ddylai pob awdurdod gyhoeddi manylion cysylltu ar ei wefan ac annog gwasanaethau brys i gyflwyno gwybodaeth.

Cydweithio â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

Mae nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn helpu awdurdodau lleol i baratoi tai gwag ar gyfer eu defnyddio eto ledled Cymru. Er enghraifft:

  • Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cydweithio â Chymdeithas Tai’r Gogledd ac ariannu swyddog tai gwag yn yr awdurdod lleol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfleoedd i gyflogi prentisiaid, hefyd. Mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cael prynu a gwella cartrefi gwag i’w rhoi ar osod trwy ddefnyddio Grant y Tai Cymdeithasol, Grant y Cyfalaf sydd wedi’i Ailgylchu neu arian wrth gefn

Defnyddio Grant y Tai Cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru’n dyrannu Grant y Tai Cymdeithasol ymhlith cynghorau i’w helpu i gynnig tai fforddiadwy. Y cynghorau sy’n pennu’r blaenoriaethau, ac maen nhw’n cael cydweithio â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i fanteisio ar Grant y Tai Cymdeithasol wrth brynu cartrefi gwag a’u paratoi ar gyfer eu cynnig yn dai fforddiadwy.

Anogaethau treth a chartrefi gwag

Treth y cynghorau a chartrefi sy’n wag dros gyfnod maith: Trwy Ddeddf Tai Cymru 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y gyfraith fel y bydd hawl gan gynghorau lleol i godi dwywaith gymaint o dreth ar anheddau sy’n wag ers dros flwyddyn. Y bwriad yw annog perchnogion i ddefnyddio cartrefi gwag eto. Bydd y cynghorau’n cael cadw’r incwm ychwanegol, ac mae rhai wedi dechrau codi rhagor o dreth yn barod.

Gostwng treth ar werth: Mae nifer o gynlluniau gostwng treth ar werth yn berthnasol i adnewyddu cartrefi gwag. Gall y rheiny arbed llawer o gostau i berchnogion ac arwain at ddefnyddio cartrefi gwag eto heb angen i’r cyngor wneud llawer.

Mae rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 708 (Adeiladu) ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yma

Mae rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 431C ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yma

Mae rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad TAW 708/6 ar wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yma

Arwerthu cartrefi gwag

Mae llawer o gartrefi yn y Deyrnas Gyfunol mewn cyflwr gwael iawn. Gan ei bod yn anodd codi morgeisi i’w prynu o achos hynny, mae’n well eu harwerthu. Yn aml, fodd bynnag, mae perchnogion y cartrefi’n gyndyn o wneud hynny am fod ffïoedd arwerthwyr yn tueddu i fod yn uwch na rhai’r asiantau eiddo.

Mae Cyngor Sir Gâr wedi cydweithio â rhai arwerthwyr lleol sy’n fodlon gostwng eu ffïoedd ar yr amod bod y client wedi’i gyflwyno trwy’r cyngor. O ganlyniad:

  1. Mae cartrefi’n cael eu harwerthu cyn pen 28 diwrnod fel arfer ac, o ganlyniad, yn cael eu defnyddio eto heb angen cymryd camau gorfodi
  2. Y cwbl mae eisiau i’r cyngor ei wneud yw cyflwyno’r perchennog i’r arwerthwr
  3. Rhwng yr arwerthwr a’r client y bydd pob cytundeb, a dyw’r cyngor ddim yn ymwneud â nhw o gwbl

Yn rhan o’r gwaith hwnnw, mae Prosiect Cartrefi Gwag WLGA wedi cysylltu ag arwerthwyr ledled Cymru i drefnu pris gostyngol lle mae cyngor lleol wedi cyflwyno perchennog. John Francis yw’r arwerthwr cyntaf i gytuno i ostwng ei brisiau.

Rôl awdurdodau lleol yn froceriaid

Mae awdurdodau lleol yn cael gweithredu’n froceriaid trwy helpu perchnogion cartrefi gwag i gysylltu â’r rhai allai eu paratoi ar gyfer eu defnyddio nhw eto.

Defnyddio pwerau gorfodi

Yn y rhan fwyaf o achosion, y ffordd fwyaf effeithiol o ofalu bod cartref gwag yn cael ei ddefnyddio eto yw cynorthwyo a chynghori’r perchennog. Ambell waith, bydd angen i’r awdurdod ddefnyddio pwerau megis Gorchymyn Rheoli Adeilad Gwag. Mae prosiect cymorth gwella WLGA wedi cynghori pob un o’r awdurdodau lleol am y ffordd orau o ddefnyddio pwerau gorfodi i lenwi tai gwag.

Cliciwch ar y linc isod i weld gwybodaeth am y gorchmynion hynny megis siart lif, disgrifiad o amryw gamau’r broses, awgrymiadau, meini tramgwydd, cynghorion manwl am bob cam a set o ddogfennau safonol i’w defnyddio a’u haddasu yn ôl eich amgylchiadau eich hun.

I weld canllawiau ar Orchmynion Rheoli Adeiladau Gwag, cliciwch yma


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://www.wlga.cymru/empty-homes-tools