CLILC

 

Datblygu ac adfywio economaidd

Mae rôl bwysig i’r awdurdodau lleol ynglŷn â gwella economi Cymru, nid yn unig trwy fentrau datblygu economaidd penodol ond trwy greu’r amgylchiadau economaidd er ffyniant masnachol, hefyd. Trwy eu gwasanaethau, mae’r awdurdodau lleol ar flaen y gad o ran cynnal yr isadeiledd cludo angenrheidiol, defnyddio pwerau rheoleiddio mewn meysydd megis iechyd amgylcheddol a chynllunio, gwella mannau cyhoeddus, gwella medrau trigolion i’w helpu i ddod o hyd i swyddi a gweithio gyda’r bobl sydd heb weithio ers tro.

Mae awdurdodau lleol yn bartneriaid allweddol ar gyfer darparu nifer o raglenni a mentrau Llywodraeth Cymru yn yr ardal hon gan gynnwys Targedu Buddsoddiad Mewn Adfywio, Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, Benthyciadau Canol Tref a Thasglu’r Cymoedd.

Yn fwy diweddar mae awdurdodau lleol wedi bod yn annog datblygiad economaidd ar draws y pedwar rhanbarth yng Nghymru gyda Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf yn Ne Ddwyrain a De Orllewin Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng Ngogledd Cymru, De/ Orllewin/Canol a’r De Ddwyrain yn asesu’r galw am lafurlu a chyflenwi a gwneud argymhellion ar gyfer darparu hyfforddiant o ganlyniad i ofynion a ragwelir yn y dyfodol. Mae’r Bargeinion Twf a Dinesig yn cael eu datblygu gyda Llywodraethau Cymru a’r DU, gydag ystod eang o brosiectau wedi eu dylunio i gyflawni twf cynhwysol a hunan-gynhaliol.  

Dyma’r heriau ym maes datblygu economaidd:

 

  • I fod yn wasanaeth llywodraeth leol a werthfawrogir, sy’n darparu’r agenda ataliol drwy gynnal cymunedau a helpu unigolion i wireddu eu potensial
  • I gyflawni gwir gydgynhyrchiad cynlluniau rhanbarthol a’u darparu drwy weithio gyda phartneriaid ym mhob un o’r rhanbarthau a chyfrannu at amcanion economaidd cenedlaethol
  • I fwyhau’r cyllid sydd ar gael ar gyfer datblygiad economaidd ac adfywio prosiectau ar ôl i’r DU adael yr UE
  • I chwarae rôl arweiniol yn agenda economaidd a sgiliau rhanbarthol
  • I sicrhau bod y math o ddatblygiad a gynhelir yn gynaliadwy

 


Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Peppin

https://www.wlga.cymru/economic-development-and-regeneration