Mae modd i gynghorau dderbyn gwybodaeth ddefnyddiol am y coronafeirws newydd COVID-19 ar y wefan hon. Mae’r wybodaeth yn cynnwys dolenni i gyngor cenedlaethol, atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml a deunyddiau ymgyrchoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i barhau i fonitro’r sefyllfa esblygol yn sgil y coronafeirws.