Swyddog Cyfathrebu (Cyfryngau a Chyfryngau Cymdeithasol)

Dyddiad Cau:                   Dydd Sul 19 Chwefror 2023

Dyddiad y Cyfweliad:       Dydd Llun 6 Mawrth 2023


Gradd/Cyflog:        Gradd 4 (SCP 30 – 35) £36,298 - £41,496

Tymor:                  Parhaol


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydi

Cymraeg yn hanfodol: ydi


Ynglŷn â’r Swydd                                

Rydyn ni’n edrych am Swyddog Cyfathrebu brwdfrydig ac yn llwyr ddwyieithog i ymuno â thîm cyfathrebu CLlLC.

Bydd gennych chi brofiad o weithio o fewn maes cyfathrebu, awyrgylch swyddfa’r wasg neu newyddiaduraeth – gan gynnwys drafftio copi dwyieithog – a gyda dealltwriaeth dda o wasanaethau cyhoeddus a sensitifrwydd gwleidyddol. Gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, byddwch chi ’n cefnogi uwch swyddogion ac arweinyddiaeth wleidyddol CLlLC i helpu i hyrwyddo buddiannau llywodraeth leol yng Nghymru.

Byddwch chi’n gallu dangos profiad o reoli a datblygu cysylltiadau da gyda newyddiadurwyr allweddol ar draws y wasg a’r cyfryngau, ac o ysgrifennu copi perswadiol o ansawdd uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg ar draws nifer o sianeli. Byddwch chi’n gyfrifol am oruchwylio a datblygu sianeli cyfryngau cymdeithasol a bydd gennych chi lygad dda am greu cynnwys effeithiol a gafaelgar.

Bydd profiad gennych chi o weithio mewn newyddiaduraeth neu gysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfyrdol o fewn gwasanaeth cyhoeddus neu awyrgylch gwleidyddol, ac o weithio i derfynnau amser tynn. Byddwn ni’n disgwyl i chi fod yn ragweithiol ac yr un mor gyfforddus yn gweithio ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm. Byddwch chi mewn cysylltiad agos ac yn rheolaidd gydag arweinwyr ac uwch aelodau etholedig o fewn CLlLC, gan ddarparu cyngor a cefnogaeth yn hyderus gan ddatblygu perthnasau dibynadwy ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno gyda sefydliad â phroffil uchel sydd wrth galon llywodraethiant Cymru. Os ydych chi â diddordeb, hoffwn ni glywed gennych chi.


Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Dilwyn Jones, Rheolwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus  ar 07554 056520.

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Sul 19 Chwefror 2023 i: recruitment@wlga.gov.uk

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol drwy ar Dydd Llun 6 Mawrth 2023.                

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 07553 655939
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30