Arolwg o ymgeiswyr

Gyda chymorth Uned Data Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr ar ôl yr etholiadau lleol fis Mai 2017.

Yn ôl Mesur Llywodraeth Leol Cymru 2011, rhaid i bob awdurdod lleol gynnal arolwg safonol o’r cynghorwyr a’r ymgeiswyr aflwyddiannus yn ei fro. Dylai’r arolwg gynnwys cynghorwyr sir a chymuned fel ei gilydd a gofyn i bobl nodi a ydyn nhw’n ferched neu ddynion yn ogystal â thrafod amryw bynciau eraill megis tueddfryd rhywiol, iaith, tras, oedran, anableddau, crefydd, addysg, cymwysterau, cyflogaeth a gwaith cynghorydd. Defnyddir yr wybodaeth sy’n deillio o’r arolwg i ddeall proffil ymgeiswyr a chynghorwyr yn well a dadansoddi tueddiadau dros amser i gryfhau amrywiaeth y rhai a hoffai fod yn gynghorwyr a nodi unrhyw feini tramgwydd a allai eu rhwystro.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ddeilliodd o’r arolwg yn 2012.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 07553 655939
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30