CLILC

 

Lluoedd Arfog

Cyfamodau CymunedolFis Mai 2011, penderfynodd Llywodraeth San Steffan wella perthynas y boblogaeth, llywodraethau a’r lluoedd arfog trwy gyflwyno Cyfamod y Lluoedd Arfog. Prif ddiben y ddogfen yw amlinellu egwyddorion neu gyfrifoldebau moesol Deddf y Lluoedd Arfog 2011 ynglŷn â thrin a thrafod aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Mae’n helpu i osgoi unrhyw anfanteision y gallen nhw eu profi, hefyd. Mae cyfamodau wedi’u cyflwyno fel y bydd modd ychwanegu at y cymorth lleol.

 

Beth yw cyfamod ynglŷn â’r lluoedd arfog?

Ar wahân i roi cyfle i anrhydeddu lluoedd arfog y Deyrnas Gyfunol, nodau cyfamod o’r fath yw:

 

  • annog cymunedau lleol i gefnogi’r lluoedd arfog yn eu hardaloedd nhw a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd am faterion sy’n effeithio arnyn nhw
  • cydnabod a chofio aberthau’r lluoedd arfog
  • hybu gweithgareddau sy’n helpu i gymathu’r lluoedd arfog ym mywyd y fro
  • annog pobl y lluoedd arfog i gynorthwyo a chefnogi’r gymuned ehangach – boed trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrosiectau ar y cyd neu fathau eraill o ymgysylltu

 

Gwaith awdurdodau lleol Cymru

Mae cyfamod lluoedd arfog gan bob un o 22 awdurdod lleol y wlad. Bu achlysuron arbennig lle llofnododd cynrychiolwyr y cyngor a’r lluoedd arfog gyfamod y fro.

 

Mae pob cyfamod wedi’i llunio yn ôl anghenion y lluoedd arfog sydd yn y fro dan sylw. I gyflawni’r cyfrifoldebau mae pob cyngor wedi ymrwymo iddyn nhw yn y cyfamodau, mae rhaid cydweithio ag amryw bartneriaid megis Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, cymdeithasau tai, colegau a phrifysgolion.

 

Trwy lofnodi cyfamod, mae pob awdurdod lleol wedi:

 

  • Penodi cynghorydd i hybu materion y lluoedd arfog, gofalu bod yr awdurdod yn cadw at yr hyn yr ymrwymodd iddo a chwalu unrhyw feini tramgwydd. Mae pob hyrwyddwr yn gweithio gyda chymorth uwch swyddog
  • Sefydlu gwefan ar y cyd â’r prif sefydliadau cysylltiedig. Mae’r wefan yn cynnig cymorth a chefnogaeth arbenigol i bobl y lluoedd arfog (aelodau cyfredol, y rhai wrth gefn, hen filwyr, perthnasau a gweddwon) mewn meysydd megis addysg, cyflogaeth, iechyd, lles, materion teuluol a materion ariannol
  • Sefydlu prosiectau i gryfhau cysylltiadau a pherthynas y lluoedd arfog â’r gymuned ehangach lle maen nhw’n byw. Mae hynny wedi’i gyflawni trwy gyflwyno ceisiadau llwyddiannus o dan y grant Covenant Fund

 

Mae rhai awdurdodau lleol wedi bwrw ymlaen â’u prosiectau eu hunain hefyd i helpu lluoedd arfog eu hardaloedd nhw:

 

  • Yn Wrecsam, mae'r cyngor yn cynnal cynllun nofio’n rhad ac am ddim i hen filwyr
  • Ym Mro Morgannwg, mae'r cyngor wedi cyflwyno polisi lle mae’n holi pawb sy’n cysylltu â’r cyngor a yw’n ymwneud â’r lluoedd arfog o gwbl i ofalu bod yr holl wasanaethau priodol ar gael i bobl y lluoedd arfog. Mae’r cyngor wedi cydweithio â phartneriaid allanol i gynnig cronfa ddata ar y we o’r cymorth sydd ar gael
  • Yng Ngheredigion, mae'r cyngor wedi cyflwyno rhif ffôn arbennig i bobl y lluoedd arfog lle mae modd cael cynghorion a gwybodaeth trwy staff mae Lleng Frenhinol Prydain wedi’u hyfforddi
  • Yng Nghaerdydd, mae'r cyngor yn cynnal prosiect ar y cyd â sefydliad tai Trivallis a Phartneriaeth Hen Filwyr Cymru i gynnig cartrefi cynaladwy i hen filwyr a’u teuluoedd. Cydweithiodd y cyngor â Trivallis, Partneriaeth Hen Filwyr Cymru a chwmni Seraph Property Management i godi 152 o dai newydd ym Mae Caerdydd. Bydd yn neilltuo o leiaf 15% i hen filwyr sydd ar restr y rhai sy’n aros am gartref.  Mae’r cyngor o’r farn bod prosiect o’r fath yn cyd-fynd ag ysbryd Cyfamod y Lluoedd Arfog

Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Rachel Morgan

https://www.wlga.cymru/armed-forces