Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) ydy’r cylch proffesyddol ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol sy’n atebol am gyfrifoldebau addysg statudol ym mhob un o’r awdurdodau lleol. 

 

Fe fuodd i’r gymdeithas ran ers tro byd ynglŷn â chynghori ar ddatblygiadau strategol a chynnal gwasanaethau addysg a mentrau cysylltiedig ar ran awdurdodau Cymru.

 

Nod CCAC ar gyfer yr 21ain ganrif, yn sgil datganoli, ydy cydweithio mwy clos â’r Cynulliad Cenedlaethol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chyrff cyhoeddus, preifat a phroffesyddol eraill sy yng Nghymru. Mae gyda hi’r modd a’r gallu i gymhwyso atebion blaengar a chreadigol i bob her gymdeithasol, adfywio economaidd ac amgylcheddol bydd unigolion a chymdogaethau’n eu hwynebu.

 

Mae gwasanaethau dysgu gydol oes yn hyrwyddo dyfodol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, bob un, yn eu cymunedau. Y ddelfryd ydy gweithredu i newid pethau er gwell. Er fod swyddogaeth addysg yn wasanaeth i bawb yn newid, y gwir cyffredinol ydy bod i addysg ran greiddiol ynghylch diwallu anghenion pob teulu a phlentyn a chyfoethogi’u bywydau, gan gynnwys y bregus.

Dygu gydol oes ydy’r allwedd ar gyfer pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn dwf ar un llaw ac ar gyfer agor y drws i bosibiliadau cymunedau ar y llall i ddibenion eu hadfywio eu hunain a sicrhau’u ffyniant, ei hiechyd a’u lles. Mae’r dystiolaeth o du Estyn a’r Comisiwn Archwilio’n arwyddo bod y gwasanaethau addysg yn gyson lwyddiannus ynglŷn â’u swyddogaethau.

 

Mae cyfraniad CCAC i ddatblygu addysg ar gyfer plant a theuluoedd a mentrau dysgu gydol oes yn un ystyriol, cydlynus a phroffesyddol, gan ofalu bod arweiniad effeithiol a rheolaeth effeithlon yn nodwedd o drefnau cynnal blaengar yn sgil cyfuno gwasanaethau a chynnwys pawb.

 

Y weledigaeth yw darparu gwasanaethau ardderchog drwy integreiddio, bod yn gynhwysol ac yn  flaengar gyda newidiadau.

 

Mae’r gymdeithas yn cydnabod mai aelodaeth, ymroddiad a phresenoldeb cyfarwyddwyr yn ei chyfarfodydd, gan gynnwys swyddogion ail, trydedd a phedwaredd haen mewn amryw isbwyllgorau dan gadeiryddiaeth cyfarwyddwyr, ydy ei hadnodd mwyaf gwerthfawr. Fel hyn, mae modd manteisio ar fedrau, arbenigedd a phrofiad swyddogion ar draws Cymru i ddylanwadu ar wleidyddion lleol a’u cynghori ac i hyrwyddo polisiau a rhoi cymorth i reolwyr ynglŷn â chynnal gwasanaethau. Bydd cynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol fel na fyddwn ni’n colli arbenigwyr o’n gwasanaethau cyhoeddus ni.


Mae rhagor o wybodaeth gan: 

Pierre Bernhard-Grout - Swyddog Cyswllt/Polisi ADEW

Ffôn: 07799 763251 Ebost: pierre.bernhard-grout@wlga.gov.uk 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30