Ymateb WLGA i gyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol

Dydd Mawrth, 20 Mawrth 2018

Mae WLGA yn nodi’r cyhoeddiad heddiw o’r Papur Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol. Roedd llywodraeth leol eisoes yn ymateb yn rhagweithiol i’r rhaglen flaenorol o gydweithio rhanbarthol ac yn datblygu agenda y Bargeinion Twf a Dinesig. O ganlyniad, mae’r cyhoeddiad hwn wedi achosi cryn anesmwythdra a dryswch. Mae wedi cyrraedd hanner ffordd trwy dymor y Cynulliad ac yn dilyn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru na fyddai ad-drefnu yn digwydd am 10 mlynedd.

Nid yw’n syndod y bydd awdurdodau lleol angen eglurder ac i ddeall goblygiadau tro arall mewn polisi llywodraeth mewn ardal sydd wedi gweld nifer sylweddol o adroddiadau a chomisiynau blaenorol. Dyw’r cynigion heb gael eu costio yn llawn eto a mae’r rhan helaeth o ddadansoddi academaidd yn dod i’r casgliad bod rhaglenni ad-drefnu prin yn darparu arbedion neu’r newidiadau y gobeithir amdanynt mewn perfformiad.

Rydym wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet am ad-drefnu a phweru llywodraeth leol a rydym yn diolch iddo am ymgysylltu. Bydd yn mynychu cyfarfod cyngor WLGA y dydd Gwener hwn a bydd ei gynigion yn ddi-os yn sbarduno trafodaeth lawn a thrylwyr.

Yn y cyfamser, bydd awdurdodau yn parhau i weithio i ddatblygu bargeinion dinesig a thwf ar y lefel rhanbarthol, sydd wedi cael gefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Yn hanfodol, bydd WLGA yn parhau i wneud yr achos ar gyfer cyllido cynghorau yn iawn. Fel y dengys enghreifftau presennol yn Lloegr, dyw graddfa fwy ddim yn ateb i’r argyfwng mewn gofal cymdeithasol a llymder. Dyw uno awdurdodau ar eu cythlwng i ffurfio awdurdodau mwy heb yr adnoddau angenrheidiol ddim yn ateb cynaliadwy i’r problemau y mae cynghorau yn eu wynebu.

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30