CLILC

 

WLGA yn ymateb i orwariant £163m y byrddau iechyd

  • RSS
Dydd Mawrth, 03 Ebrill 2018 Categorïau: Gwasanaethau cymdeithasol Newyddion
Dydd Mawrth, 03 Ebrill 2018

Yn ymateb i orwariant cyfunol gan y byrddau iechyd yng Nghymru ar ddiwedd y flwyddyn gyllidol hon, dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd WLGA dros Ofal Cymdeithasol:

“Yn gwbl haeddiannol, mae’r GIG yn cael ei drysori gan bawb yng Nghymru, ac mae’n sefydliad sydd angen ei amddiffyn. Fodd bynnag, mae’r gorwariant disgwyliedig eleni gan nifer o’r byrddau iechyd yn dystiolaeth glir nad ydi trefniadau cyllidebol a rheoli adnoddau ar gyfer iechyd ddim yn gweithio fel y dylien nhw.”

“Bu gweithwyr meddygol yn nodi ers tro taw’r gwir broblem mewn ysbytai yw oedi wrth drosglwyddo gofal, sydd yn atal gwelyau aciwt rhag bod ar gael ar gyfer y rhai sydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty a thriniaethau. Pe bai buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau ataliol yn cael ei wneud gan lywodraeth, byddai cynghorau yn gallu buddsoddi yn ddigonol mewn gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau cefnogol eraill i sicrhau bod digon o gapasiti i ddelio gyda’r gal war wasanaethau o’r fath, yn enwedig wrth i gleifion oedrannus adael yr ysbyty.”

“Tra ein bod ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y £10m o gyllid ychwanegol i ddelio â phwysedd y gaeaf mewn gofal cymdeithasol, mae’n glir nad yw cyllid ar hap o’r fath yn ddigonol i ddelio â’r gwir bwysedd ariannol. Dengys amcangyfrifon y bydd gofal cymdeithasol yn wynebu pwysedd o £99m yn ychwanegol am y flwyddyn sy’n dod yn unig, dim ond er mwyn dal i fyny â’r galw gan boblogaeth sy’n heneiddio ar gyfer cymorth pellach. Pe bai gofal cymdeithasol yn derbyn y buddsoddiad ychwanegol sydd yn ddirfawr arno ei angen, byddai’n helpu i leddfu’r baich ar fyrddau iechyd trwy leihau oedi wrth drosglwyddo gofal, ac felly’n rhyddhau gwelyau ar gyfer gofal mewn ysbytai.”

“Mae cynghorau yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r byrddau iechyd ac yn awyddus iawn i weld y GIG yn ffynnu. Rydyn ni i gyd angen sicrhau bod buddsoddi yn cael ei wneud yn ddoeth. Os ydyn ni am amddiffyn y GIG ar gyfer y dyfodol, mae’n gwbl hanfodol bod gofal cymdeithasol i oedolion yn cael ei gydnabod yn bartner allweddol iddo, ac yn cael y gydnabyddiaeth a’r buddsoddiad priodol y mae’n ei haeddu.”

-DIWEDD-

 

Nodiadau i Olygyddion

Cyfeirir at y pwysedd o £99m o bwysedd ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol mewn adroddiad ar y cyd gan WLGA ac ADSS i Ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol i’r ‘Gost o Ofalu am Boblogaeth sy’n Heneiddio’: http://www.wlga.wales/SharedFiles/Download.aspx?pageid=62&mid=665&fileid=1433

https://www.wlga.cymru/wlga-responds-to-163m-health-boards-overspend