CLILC

 

Hysbysiad Preifatrwydd CLlLC

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Ei brif ddibenion yw hyrwyddo llywodraeth leol well, hyrwyddo ei enw da a chefnogi awdurdodau wrth ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.

 

Mae CLlLC yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am staff ac unigolion fel rhan o’r gwasanaethau mae’n ei ddarparu drwy ei gefnogaeth a threfniadau gwneud penderfyniadau trawsbleidiol.

 

Fel rheolydd data, mae gan CLlLC ddyletswydd i roi gwybod i unigolion am yr wybodaeth a gedwir ganddi.  Dylai’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn grynhoi pam ei bod yn cael ei chadw ac unrhyw bartïon eraill y gellir ei throsglwyddo iddynt. Bydd CLlLC yn cynghori unigolion am hyn drwy Brosesu Teg mewn iaith gryno, glir, syml ac am ddim.

 

Pa fathau o ddata personol ydym ni’n ei brosesu?

 

Mae’r mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

 

  • Fanylion cyswllt, yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Manylion adnabyddadwy, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhifau gweithiwr ac aelodaeth
  • Aelodaeth o bleidiau a grwpiau gwleidyddol

 

Sut fyddwn ni’n caffael eich data personol?

 

Rydym yn caffael eich data personol o ffynonellau gan gynnwys:

 

  • gwefannau cyhoeddus
  • data a ddarperir gennych chi mewn cais am ffurflen hyfforddiant
  • rhwydweithiau proffesiynol rydych yn rhan ohonynt ac rydym ni’n eu cefnogi
  • ceisiadau ar gyfer cyflogaeth
  • negeseuon e-bost yr ydych eu hanfon i ni

 

Sut fyddwn ni’n defnyddio eich data personol?

 

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer un neu fwy o’r dibenion canlynol:

 

  • i gysylltu â chi
  • ar gyfer dibenion ystadegol ac atgyfeirio 
  • i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol
  • i fynd i’r afael ag ymholiadau gennych chi ac i ymateb i unrhyw anghydfod posibl neu wirioneddol sy’n ymwneud â chi
  • Cyflogaeth

 

Beth yw ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

 

Mae CLlLC yn cadw data personol  amdanoch chi yn ei gapasiti fel rheolydd data.

 

Bydd y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol yn un neu fwy o’r canlynol:

 

  • rydym angen prosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol
  • rydym angen prosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer ein hawdurdod swyddogol yn ein capasiti fel corff cyhoeddus; [a/neu] 
  • gan ein bod angen prosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau dan gontract gyda chi 
  • mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau hanfodol y gwrthrych data neu fodau dynol eraill

 

Y sefydliadau gallwn rannu eich data personol gyda nhw

 

Gallwn rannu eich data personol gyda sefydliadau allanol rydym yn gweithio â nhw. Gallai’r rhain gynnwys:

 

  • Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda lledaenu gwybodaeth
  • Data Cymru i gynorthwyo gyda nodau ymchwil / ystadegol yn ogystal â phrosesau mewnol megis talu treuliau
  • Cyngor Caerdydd ar gyfer swyddogaethau cyflogau
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol pan fyddwn yn cynnal hyfforddiant ar eu rhan ar gyfer eu gwybodaeth ystadegol
  • Awdurdodau Lleol eraill os mai nhw yw’r corff priodol i ddarparu cymorth

 

Eich hawliau Diogelu Data

 

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

 

  • Eich hawl i gael mynediad - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy’n anghywir. Hefyd mae gennych yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth yr ydych yn meddwl sy’n anghyflawn
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol
  • Eich hawl i symud data - Mae gennych yr hawl i ofyn ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roddoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn amgylchiadau penodol

 

Nid oes angen i chi dalu unrhyw ffi ar gyfer ymarfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym ni fis i ymateb i chi.

 

Cysylltwch â ni ar dataprotection@wlga.gov.uk os ydych yn dymuno gwneud cais.

 

Sut i wneud cwyn
 

Dylid cyfeirio cwynion mewn perthynas â phrosesu data personol at swyddog diogelu data CLlLC.

 

Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data. Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:           

 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Gaer

SK9 5AF

Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Cyswllt

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r polisi hwn, cysylltwch â’r swyddog diogelu data. Cyfeiriad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Un Rhodfa'r Gamlas

Dumballs Road

Caerdydd

CF10 5BF

E-bost: Dataprotection@wlga.gov.uk

 


Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Medi 2022.

https://www.wlga.cymru/wlga-privacy-notice