CLILC

 

CLlLC wedi siomi â phenderfyniad Llywodraeth DU ar forlyn llanw Abertawe

  • RSS
Dydd Llun, 25 Mehefin 2018 Categorïau: Datblygu economaidd, cynllunio, trafnidiaeth ac adfywio Newyddion
Dydd Llun, 25 Mehefin 2018

Mae CLlLC wedi mynegi siom ar y cyhoeddiad nad yw Llywodraeth y DU yn barod i gefnogi morlyn llanw Bae Abertawe,

 

Yn ymateb i gyhoeddiad brynhawn heddiw, dywedodd Arweinydd y Gymdeithas y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Rwyf wedi fy siomi’n arw gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw. Bydd hyn yn siom chwerw arall i bobl Abertawe a Chymru yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i amddifadu trydaneiddio rheilffordd Great Western Railway rhwng Caerdydd ac Abertawe y llynedd.”

“Byddai’r prosiect morlyn llanw wedi bod yn hwb eithriadol i Ranbarth Dinas Abertawe a byddai wedi chwarae rôl allweddol yn dod a chymysgedd ynni cynaliadwy i’r DU. Bu CLlLC yn gefnogwr brwd o’r prosiect a oedd hefyd â chefnogaeth trawsbleidiol ar draws y ddinas, y rhanbarth ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Cafodd y morlyn ei gefnogi gan arbenigwyr annibynnol a roedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r prosiect yn ariannol; mae felly dal yn aneglur sut a pham y mae Llywodraeth y DU wedi dod i’r penderfyniad yma.”

“Ar yr un diwrnod ag y mae Llywodraeth y DU yn bwrw ‘mlaen â chynlluniau i ehangu Maes Awyr Heathrow, mae Cymru yn colli allan ar brosiect isadeiledd mawr o bwys cenedlaethol. Rydyn ni felly yn galw am gyfarfod brys gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru i drafod goblygiadau’r penderfyniad yma ac i ganfod sicrwydd y bydd Cymru yn ymddangos yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.”

 

 

https://www.wlga.cymru/wlga-disappointed-at-uk-government-decision-on-swansea-tidal-lagoon