CLILC

 

CLlLC yn llongyfarch Prif Weinidog newydd

  • RSS
Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2018 Categorïau: Democratiaeth leol a llywodraethu Newyddion
Dydd Iau, 13 Rhagfyr 2018

Yn llongyfarch Mark Drakeford AC ar ei gadarnhau yn Brif Weinidog Cymru, meddai Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):

“Ar ran CLllC a llywodraeth leol yng Nghymru, rwy’n llongyfarch Mark Drakeford AC yn wresog ar ei gadarnhau yn Brif Weinidog. Rydyn ni wedi gwerthfawrogi ein perthynas gyda Mark yn ei rolau Cabinet blaenorol, ei ymrwymiad i ymgysylltu cadarnhaol a’i ymagwedd cydsyniol i lywodraethiant partneriaethol.

“Mae’n cymryd at yr awenau mewn cyfnod stormus yn economaidd ac yn wleidyddol. Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio gyda’r Prif Weinidog newydd a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu ein cymunedau ac ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydyn ni’n rhannu’r gred bod yn well gweithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i’r afael â’n pryderon ac ein bod ni’n fwy abl i ddarparu ar gyfer pobl Cymru pan fo llywodraeth ganolog a leol yn unedig yn eu hymdrechion. Mae llywodraeth leol yn parhau i wynebu heriau sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, a rydyn ni’n credu y gallwn ni sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl Cymru pan y byddwn ni’n cydweithio â’n gilydd i’w taclo nhw.”

 

Gwnaeth y Cynghorydd Debbie Wilcox hefyd longyfarch Julie James AC ar ei hapwyntiad yn Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, a Hannah Blythyn AC ar ddod yn Ddirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol:

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Alun Davies AC am ei waith fel Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol. Er bod ein anghytuno dros ddyfodol llywodraeth leol yn hysbys, fe wnaethon ni groesawu y cyfle i drafod ein gweledigaeth gydag ef ac edrychwn ymlaen at barhau ein trafodaethau a gychwynnwyd gan y Gweithgor Diwygio Llywodraeth Leol gyda’r gweinidogion newydd.”

“Hoffwn hefyd estyn fy llongyfarchion cynnes i Julie James AC a Hannah Blythyn AC ar gael eu apwyntio yn Weinidog a Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol. Mae’r ddwy wedi dangos eu ymrwymiad llwyr i’w portffoliau yn eu rolau blaenorol yn y Cabinet, a bydd fy nghyd arweinwyr a minnau yn edrych ymlaen i gydweithio yn agos mewn partneriaeth â nhw.”

 

https://www.wlga.cymru/wlga-congratulates-new-first-minister