CLILC

 

Prif Weithredwr CLlLC i ymddeol ar ôl 30 mlynedd mewn llywodraeth leol

  • RSS
Dydd Mawrth, 02 Hydref 2018 Categorïau: Newyddion
Dydd Mawrth, 02 Hydref 2018

Mae Prif Weithredwr CLlLC, Steve Thomas CBE, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn wedi 30 mlynedd o weithio mewn llywodraeth leol a 15 mlynedd yn ei rôl bresennol.

Wedi bod yn swyddog llywodraeth leol am flynyddoedd, ymunodd â CLlLC yn 2000, gan ddod yn Brif Weithredwr ym mis Mawrth 2004, gan ei wneud heddiw yn un o’r uwch reolwyr cenedlaethol â’r gwasanaeth hiraf yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.

Ar ôl nifer o swyddi amrywiol, gan gynnwys gweithio fel glöwr ac mewn ffatri wedi gadael ysgol, cychwynnodd Mr Thomas ar ei yrfa llywodraeth leol yng Nghyngor Bwrdeistref Islwyn yn 1988. Gweithiodd ar y prosiect strategol a arweiniodd at ffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996, ble y daeth yn Brif Swyddog.

Derbyniodd wobr CBE yn 2010 am wasanaethau i lywodraeth leol.

 

Wrth adlewyrchu ar ei yrfa, dywedodd Mr Thomas CBE:

“Mae wedi bod yn fraint unigryw cael gwasanaethu awdurdodau lleol a’u partneriaid yn yr awdurdodau tân ac achub a’r parciau cenedlaethol. Gan weithio ar y lefel genedlaethol, rwyf wedi bod yn ffodus i ddelio ag aelodau etholedig a swyddogion ar draws Cymru ac i dystio’r gwaith rhagorol y mae nhw’n ei wneud. Mae hyn yn aml wedi cael ei gyflawni o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd, gan ddarparu gwasanaethau sydd yn gallon i’n cymunedau ni, mewn hinsawdd o lymder niweidiol.

“Fel rhywun sydd â’i yrfa yn ymestyn dros yr holl gyfnod o ddatganoli yn Nghymru hyd yma, rwy’n gwybod pa mor bwysig ydi llywodraeth leol ac, mewn cyfnod o lymder, yn fwy nag erioed mae Cymru angen partneriaeth o lywodraeth cenedlaethol cryf yn gweithio gyda llywodraeth leol cryf. Mae datganoli heb leoliaeth yn anathema. Mae’r genhedlaeth newydd o arweinyddion cyngor yn CLlLC yn ddylanwadol ac yn rymus wrth wneud yr achos dros gymunedau a democratiaeth leol. Rwy’n hapus iawn i fod yn gorffen fy ngyrfa yn gweithio i rai o’r gwleidyddion gorau a’r mwyaf ymroddgar yng Nghymru, yn cael eu harwain gan y rhinweddol Gynghorydd Debbie Wilcox. Mae nhw wedi gosod eu ffydd ynof fi droeon ac wedi rhoi llu o gyfleon i mi, a rydw i’n ddiolchgar iawn am hynny.”

 

Bydd y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr dros Ddysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth Dr Chris Llewelyn yn cychwyn yn y swydd Prif Weithredwr ar 1 Ionawr 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLlLC:

“Rwyf wedi cael y fraint o weithio gyda Steve yn ystod y flwyddyn diwethaf fel arweinydd CLlLC. Mae ei gyngor doeth wedi bod yn werthfawr i aelodau a Gweinidogion fel eu gilydd a’i reddf wleidyddol, ei onestrwydd a’i hiwmor wedi golygu ei fod wedi gwasanaethu ystod o aelodau yn rhagorol. Wrth lywio drwy ddyfroedd sy’n aml fyrlymus o ran y berthynas llywodraeth leol-ganolog, mae Steve wedi edrych i ganfod consensws ac i siapio agenda ar y cyd, ond mae hefyd wedi bod yn gadarn wrth amddiffyn democratiaeth leol a llywodraeth leol, a heb guddio pan fo angen siarad yn blaen.”

“Ni ellir gor-liwio ei gyfraniad, nid yn unig i lywodraeth leol, ond hefyd i’r gymdeithas sifil yn ehangach yng Nghymru yn ystod ei gyfnod ffurfiannol  Fel arweinydd CLlLC, rwy’n ddiolchgar iawn i Steve am ei gefnogaeth ddianwadal a dymunaf y gorau iddo ar ei ymddeoliad haeddiannol dros ben.”

https://www.wlga.cymru/wlga-chief-executive-to-retire-after-30-years-in-local-government