CLlLC ac ADSS Cymru yn galw am gyllid gwasanaethau ataliol yn y Gyllideb Ddrafft

Dydd Llun, 01 Hydref 2018

Gyda Llywodraeth Cymru yn paratoi i gyhoeddi’r gyllideb ar ddydd Mawrth 2 Hydref 2018, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) yn galw ar y llywodraeth i ddiogelu cyllid digonol i sicrhau bod anghenion pobl bregus a phobl hŷn yn cael eu diwallu.

Dengys adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi ar y cyd gan CLlLC ac ADSS Cymru heddiw y pwyseddau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ar draws Cymru o ganlyniad i doriadau parhaus dros 10 mlynedd o lymder. Amlinella’r adroddiad y bydd nifer o oedolion a fydd angen gofal cymdeithasol yn cynyddu 56% erbyn 2035, a bod 75% o ofalwyr yng Nghymru yn pryderu am yr effaith o ofalu ar eu hiechyd eu hunain dros y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr):

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos gwaith hanfodol sy’n cael ei ymgymryd gan ein staff gofal cymdeithasol ar gyfer rhai o’r oedolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae’n glir bod y pwyseddau a’r gofynion arnyn nhw yn cynyddu gyda 210 o asesiadau gofal a chefnogaeth yn cael eu cynnal bob dydd. Mae ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol o dan straen na welwyd erioed o’r blaen, a gweithwyr cydwybodol o ddydd-i-ddydd sy’n cael eu gadael i gario’r llwyth gwaith.”

“Mewn cyfarfod o arweinyddion cyngor ddydd Gwener, daeth neges glir: mae cynghorau wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn gofal cymdeithasol dros ddegawd o doriadau sydd wedi  gweld cyllidebau llywodraeth leol yn colli £1bn o gyllid. Ond yn syml iawn, all cynghorau ddim parhau bellach i basio toriadau ymlaen i’r union bobl hynny sydd mewn mwyaf o angen cefnogaeth. Os na fydd buddsoddiad sylweddol mewn gofal cymdeithasol, i gydfynd gydag unrhyw fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd, fyddwn ni ddim yn gweld ein gwasanaethau’n gwella er budd y rhai sydd angen gofal a chefnogaeth, a bydd y pwysedd yn parhau i dyfu yn y gwasanaethau iechyd hefyd.”

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar yn helpu i osgoi ymyraethau mwy dwys a chostus ymhen amser, a rydyn ni’n gweithio tuag at greu system sy’n fwy ataliol. Fodd bynnag, does ganddon ni ddim yr adnoddau i wneud newid mor sylweddol pan fo’r nifer o bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaethau yma yn cadw i gynyddu, yn ogystal â’r costau o ddarparu gofal addas; yr unig ateb posib ar yr amser tyngedfennol yma yw rhagor o fuddsoddiad – yn enwedig ar gyfer gwasanaethau ataliol.”

“Allwn ni ddim anghofio chwaith bod gofal cymdeithasol i oedolion yn cyfrannu i’r economi, gyda £2.2bn wedi’i gyfrannu i’r economi yng Nghymru yn 2016, gan gynnwys yr effaith ar gyflenwyr a’r arian sy’n cael ei wario gan yr holl gyflogai[i].”

“Rydyn ni’n cefnogi’r Gweinidog dros Blant a Phobl Hŷn Huw Irranca-Davies pan ddywedodd yn ddiweddar bod ‘y ffordd yr ydyn ni’n gofalu am ein gilydd yn ein diffinio ni fel cenedl’. Rydyn ni wedi cael llu o drafodaethau â’r Gweinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a rwy’n gwybod bod y ddau yn gwbl ymrwymedig i sicrhau’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau posib i drigolion Cymru. Mae’n rhaid i’r ymrwymiad hwnnw nawr gael ei adlewyrchu gan gyllid ychwanegol ar frys tra byddwn ni hefyd yn trafod sut, wrth weithio gyda’n gilydd ac ymgysylltu â’r cyhoedd, y gallwn ni ddatblygu ymateb hir-dymor cynaliadwy i gyllido gofal cymdeithasol.”

 

Dywedodd Jenny Williams, Llywydd ADSS Cymru:

“Rwy’n croesawu cyhoeddi’r datganiad sefyllfa yma heddiw sy’n amlygu’r pwyseddau ariannol a’r galw sylweddol ar wasanaethau ar gyfer y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Fel y gwnaethon ni ei amlygu ar sefyllfa’r gwasanaethau plant, mae gwir angen buddsoddiad arnon ni er mwyn darparu gwasanaethau diogel o safon uchel.

“Er gwaethaf hyn, fe allwn ni – ac fe wnewn ni – barhau i ddatblygu ystod o wasanaethau sydd yn effeithiol ac yn drawsnewidiol, fel yr ydyn ni wedi ei ddangos dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, nawr yw’r amser am setliad realistig sydd yn adlewyrchu’r pwyseddau go iawn ar draws cynghorau yng Nghymru, fel y mae’r datganiad yn ei ddangos. Mae gan ofal cymdeithasol gyfraniad gwerthfawr iawn i’w wneud, ond mae gwasanaethau dan straen aruthrol o ganlyniad i gyllido annigonol.”

“Fe wnewn ni barhau i weithio gyda CLlLC dros y misoedd nesaf yn y cyfnod allweddol yma i danlinellu’r cyfraniad gwerthfawr y mae gofal cymdeithasol yn ei wneud a’r cyllid sydd ei angen i ddarparu’r cynaliadwyedd angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.”

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30