'Gwir brawf datganoli, gwasanaethau cyhoeddus rhagorol' - 40 rheswm dros wneud pethau'n wahanol

Dydd Llun, 23 Tachwedd 2015

Mae arweinyddion y cynghorau lleol wedi cyhoeddi maniffesto uchelgeisiol gan ofyn i lywodraeth nesaf Cymru amlygu hyder a galluogi pob cyngor i gydweithio â phobl ei fro er mwyn diogelu gwasanaethau lleol.

Hyblygrwydd a rhyddid sydd wrth wraidd y maniffesto yn ogystal â chwtogi’n fawr ar y gwaith papur a’r rheoleiddio sy’n effeithio ar y cynghorau lleol ar hyn o bryd.

Mae Maniffesto WLGA, ‘Atebolrwydd Lleol 2016-21’, yn dweud yn eglur nad yw’r ffordd bresennol o ariannu a rheoli gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddo.  Mae’n cynnig 40 cam ysgubol y dylai llywodraeth nesaf y wlad eu cymryd i gynnal ein gwasanaethau cyhoeddus dros y tymor hir.

Ar ôl buddsoddi’n fawr yn y GIG dros y blynyddoedd diwethaf hyn, mae’n amlwg bod rhaid i Lywodraeth Cymru neilltuo adnoddau ar gyfer gofal cymdeithasol bellach.  Yn ôl prif weithredwr y GIG yn Lloegr, Simon Stevens, mae iechyd miliynau o blant, cyflwr y GIG dros y tymor hir a ffyniant economaidd y Deyrnas Gyfunol yn dibynnu ar ymdrech fawr i wella gwasanaethau atal ac iechyd y cyhoedd.  Yng ngoleuni’r sylwadau hynny, mae WLGA yn gofyn i fuddsoddi gael ei flaenoriaethu yn y maes hwn trwy greu Cronfa Gofal Gwell Cymru i’w hariannu trwy Fformiwla Barnett gan fod £8 biliwn newydd gael eu buddsoddi yn y maes hwnnw yn Lloegr.

At hynny, mae’r maniffesto’n hybu’r safbwynt hirsefydlog mai’r cynghorau lleol ddylai arwain gwasanaethau monitro ac eirioli dros gleifion, yn ôl pob rhesymeg.  Fe fyddai modd gwneud hynny trwy drosglwyddo swyddogaethau cynghorau iechyd cymunedol i faes llywodraeth leol.

Gan fod cynghorau lleol yn gyfrifol am ofal cymdeithasol, iechyd amgylcheddol a thai, byddai’n rhesymegol trosglwyddo holl wasanaethau iechyd y cyhoedd iddyn nhw hefyd.  Mae hynny wedi’i wneud yn llwyddiannus yn Lloegr, eisoes.  Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r maniffesto’n dweud na ddylai neb gael gwerthu prydau parod o fewn 400 metr o bob ysgol er iechyd y disgyblion.

Diau y bydd rhai gofynion eraill (megis gadael i’r cynghorau lleol gadw’r trethi busnes i gyd, defnyddio Cronfa Fawr y Lotri Wladol a’r dreth ar fagiau siopa plastig i ychwanegu at goffrau prin y gwasanaethau cyhoeddus, ariannu ‘Cyflog Byw’ ym mhob cyngor lleol trwy drefn wladol a chodi treth ar ymwelwyr o dramor) yn ddadleuol ond maen nhw’n cyfleu barn arweinyddion byd llywodraeth leol bod angen ystyried yn ddiymdroi ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau cyhoeddus ac adfywio economi’r wlad.

Gan ddweud yn eglur na allwn ni barhau yn yr un modd mwyach, mae’r maniffesto’n dweud bod cyllidebau’r gwasanaethau cyhoeddus lleol wedi crebachu o £720 miliwn ers 2010 o ganlyniad i lymder ac mai tua £940 miliwn fydd diffyg cyllidebol cynghorau lleol erbyn 2019.  Mae cyllidebau amryw wasanaethau ataliol sy’n hanfodol i dwf yr economi a lles cymunedau wedi gostwng o 50% yn barod.

Ynglŷn ag ad-drefnu maes llywodraeth leol, mae WLGA wedi gofyn eto am gynhadledd drawsbleidiol ar ôl etholiad y Cynulliad fis Mai 2016 i bennu’r ffordd ymlaen ar y cyd, er lles gwasanaethau cyhoeddus. Yn hytrach na gohirio’r broses tan 2020, mae WLGA yn gofyn am £20 miliwn i helpu cynghorau i gyfuno gwasanaethau neu greu ffyrdd amgen o’u cynnal megis ymddiriedolaethau cymunedol a chwmnïau cydfuddiannol.

Un o brif ofynion WLGA yw y dylai pob plaid wleidyddol gytuno mai atebolrwydd lleol yw’r ymateb mwyaf effeithiol i anawsterau gwasanaethau cyhoeddus lleol Cymru, gan ddweud yn eglur y dylai llywodraeth nesaf y wlad wneud y canlynol:

  • egluro rôl a chyfrifoldebau cynghorau lleol yn ogystal ag amserlen eu had-drefnu gan gydweithio’n agos â nhw er y canlyniadau gorau i bob bro;
  • ymrwymo i newid trefn ariannu’r cynghorau lleol trwy sefydlu un hyblyg a theg fydd yn rhoi rhagor o ryddid iddyn nhw ymateb i anghenion a blaenoriaethau eu cymunedau a chynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer gwasanaethau lleol;
  • trosglwyddo rhagor o rym i’r lefel lywodraethu sy’n nesaf at y bobl ac ymrwymo i hybu atebolrwydd lleol fel y bydd cymunedau’n cael dylanwadu’n uniongyrchol ar y modd mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynnig a’u rheoli.

Gan fod cymunedau Cymru wedi syrffedu ar drin a thrafod materion cyfansoddiadol, hoffai WLGA i’r llywodraeth nesaf ganolbwyntio’n ddi-baid ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae datblygiadau yn Lloegr megis bwriad i adfywio’r rhanbarth gogleddol wedi dangos mai datganoli grym i gymunedau trwy gynghorau lleol yw’r ‘syniad mawr’ newydd ym mholisïau’r wladwriaeth a dyna fydd prawf mwyaf llywodraeth nesaf Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Bob Wellington (Tor-faen), Arweinydd WLGA:

“Mae WLGA wedi cyhoeddi heddiw ei maniffesto ar gyfer byd llywodraeth leol er mwyn ceisio cryfhau democratiaeth leol ac adfywio bywydau cymunedau.  A ninnau’n arwain y cynghorau lleol, rydyn ni’n dweud yn eglur nad yw’r ffordd bresennol o ariannu a rheoli gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddo ac y dylai llywodraeth nesaf Cymru roi rhyddid i’r cynghorau ac ymddiried ynddyn nhw i ddyfeisio ffyrdd gwell ar y cyd â’u cymunedau.”

“Mae coffrau’r gwasanaethau cyhoeddus wedi crebachu’n fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, ac mae’r cynghorau lleol yn gorfod cau neu dorri llawer o’r cyfleusterau a gwasanaethau sy’n bwysig i’r trigolion.  Nod ein maniffesto yw dod â’r dirywio i ben.”

“Mae’r maniffesto’n dweud yn eglur y bydden ni mewn sefyllfa i ragori er lles pobl ein hardaloedd pe bai modd gweithio ar y cyd â llywodraeth y wlad, meithrin perthynas â’r llywodraeth honno o’r newydd, sefydlu trefn ariannu fyddai’n galluogi cynghorau lleol i ymateb i anghenion cymunedau a datganoli rhagor o rym i weinyddwyr lleol.”

“Rydyn ni’n cynnig ffordd newydd o weithio, heddiw – a hynny trwy ddeall effeithiau’r llymder parhaus ond, bwysicach fyth, trwy ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am atebion fydd yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a gwerthfawr Cymru.”

Meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards (Gwynedd), Arweinydd Cylch Plaid Cymru WLGA:

“Mae’r cynghorau lleol ar flaen y gad yn barod o ran datblygu ffyrdd newydd o gynnig gwasanaethau i ateb her barhaus llymder.  Felly, mae ymddiriedolaethau cymunedol, cwmnïau cydfuddiannol a chwmnïau masnachu awdurdodau lleol wedi’u sefydlu.  Mae cryn dipyn o arloesi megis cyfuno arbenigedd cynghorau lleol i gynnig gwasanaethau’n rhanbarthol.”

“Ac etholiad nesaf y Cynulliad yn nesáu, mae ansicrwydd o hyd o ran ad-drefnu maes llywodraeth leol.  Does dim cydsyniad am y ffordd ymlaen nac eglurder am ariannu’r broses.  Mae’r maniffesto’n dweud yn eglur y dylai llywodraeth nesaf y wlad fynd ati’n ddiymdroi i egluro proses ad-drefnu’r cynghorau lleol a newid y sector cyhoeddus yn sylweddol yn ôl yr angen.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans (Sir Ddinbych), Arweinydd Cylch Annibynnol WLGA:

“Beth bynnag fydd canlyniad etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf, mae’n annhebygol y bydd proses ad-drefnu’r cynghorau lleol yn mynd rhagddi cyn 2020.  Felly, fydd dim ateb cyflym i anawsterau cyllidebol a gwasanaethol mawr y cynghorau ar hyn o bryd.”

“Mae 40 cam y cynllun yma’n cynnig nifer o atebion eglur, synhwyrol ac ymarferol ar gyfer cryfhau’r gwasanaethau cyhoeddus – nid lleiaf yr awgrym am symleiddio trefn ariannu chwerthinllyd o gymhleth lle mae miliynau o bunnoedd wedi’u corlannu mewn grantiau sydd heb roi unrhyw hyblygrwydd o gwbl i’r cynghorau ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.”

“Rydyn ni’n dweud yn eglur y bydd angen i lywodraeth nesaf y wlad ariannu unrhyw ddeddfau neu bolisïau yn llawn hefyd, gan na allai’r cynghorau lleol ysgwyddo unrhyw ddyletswyddau newydd heb gyllid ychwanegol.”

Meddai’r Cynghorydd Peter Fox (Sir Fynwy), Arweinydd Cylch Ceidwadwyr WLGA:

“Mae’n hen bryd inni roi’r gorau i’r trefniadau canolog drud ac aneffeithiol, lle y bydd llywodraeth y wlad yn ceisio nodi beth fyddai orau i bob bro.  Rhaid i lywodraeth nesaf Cymru fod yn uchelgeisiol o ran galluogi cynghorau lleol i gydweithio â chymunedau er mwyn gwella eu hardaloedd a rheoli eu gwasanaethau.  Mae hynny’n digwydd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol yn barod.”

“I lwyddo, bydd angen annibyniaeth a diogelwch ariannol ar gynghorau lleol fel y gallan nhw reoli eu hardaloedd.  Dyma hanfod atebolrwydd lleol, sydd wrth wraidd maniffesto rydyn ni wedi’i gyhoeddi heddiw.”

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30