Digwyddiadau rhanbarthol i gynghorwyr newydd - 5 Mlynedd i Wneud Gwahaniaeth!

06/10/2017


Am Ddim

Cyfle i gynghorwyr newydd glywed gan wleidyddion a llunwyr polisïau gwladol, rhannu arferion a phrofiadau cynnar, ystyried heriau personol, a thrafod cynlluniau gyda chynghorwyr ar draws y rhanbarth.

Mynychodd tua 200 o aelodau o bob awdurdod y pum achlysur ymsefydlu i aelodau newydd a gynhaliwyd ledled Cymru.

  • 6ed Hydref - Caerffili
  • 13ed Hydref - Caerfyrddin
  • 3ydd Tachwedd - Conwy
  • 10fed Tachwedd - Abertawe
  • 17eg Tachwedd - Caerdydd

Roedd yr aelodau yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd i drafod eu rolau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu gyda’r sawl sydd ynghlwm wrth yr heriau yn uniongyrchol yn ogystal ag i glywed am yr arferion da a’r dulliau sy’n gweithio. Roedd yr adborth gan yr aelodau a fynychodd yn hynod o gadarnhaol ac ystyriwyd negeseuon y siaradwyr a’r cyfleoedd i gwrdd â chynghorwyr o awdurdodau a phleidiau gwahanol yn rhai defnyddiol iawn. Gallwch edrych ar ddeunyddiau’r cyflwyniadau a gafwyd yn ystod y diwrnodau yma - agor dolen

  • Cyflwyniad: Y Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Cynghorwyr (Mel Doel)
  • Cyflwyniad: Anatomeg Cynghorydd Effeithiol (Ian Bottrill)
  • Cyfwyniad: Llywodreth Leol yng Nghymru – Edrych tua’r Dyfodol (Steve Thomas CBE)
  • Rhaglen

 

 Postiwyd gan WLGA
 21/11/2017   Categorïau: Gwella a chyflawni

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30