CLILC

 

Mwy o doriadau i wasanaethau lleol yng Nghymru

  • RSS
Dydd Mawrth, 02 Hydref 2018 Categorïau: Cyllid ac adnoddau Newyddion
Dydd Mawrth, 02 Hydref 2018

Mae cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw yn cadarnhau ofnau y bydd gwasanaethau cyhoeddus lleol yn parhau i wynebu toriadau aruthrol ac y bydd miloedd o swyddi yn cael eu colli. Bydd gwasanaethau bara menyn ein cymunedau lleol, megis gwasanaethau trafnidiaeth, diogelu’r cyhoedd, diwylliant, llyfrgelloedd ac amgylcheddol, yn parhau i leihau ond y bydd y meysydd mwy o faint sef gofal cymdeithasol ac addysg yn dechrau cario’r pwysau o leihad mewn cyllid wrth i gyllidebau gael eu gwasgu i’r pen. Bydd y setliad llawn ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

“Mae cyhoeddi’r amlinelliad o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw yn cadarnhau awgrymiadau blaenorol y bydd y grant craidd yn lleihau 1% yn 2019-20. Mae graddfa yr heriau ariannol sy’n wynebu gwasanaethau lleol yn 2019-20 yn enfawr, sef £264m neu tua 5% o wariant net. Mae’n amhosib gor-ddweud yr her sy’n wynebu cynghorau i barhau i redeg gwasanaethau lleol hanfodol megis ysgolion a gofal cymdeithasol, Os nad yw llymder yn dod i ben cyn hir, bydd gwasanaethau cyhoeddus fel yr ydyn ni’n ei nabod nhw yn cael eu gadael yn y gorffennol.”

“Rydyn ni’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid am ymgysylltu’n estynedig ar hyn, yn ogystal a’i agoredrwydd am y ffaith nad yw’r deilliant yma’n cwrdd â’r pwyseddau y mae cynghorau yn eu wynebu. Rwy’n gobeithio y bydd y ddeialog yn parhau wrth i ni symud tuag at gyllideb derfynol.”

“Fodd bynnag, rydyn ni’n ymaros cyhoeddi’r setliad dros dro wythnos nesaf gydag anesmwythder. Rydyn ni’n cydnabod bod pethau’n galed ar Lywodraeth Cymru o ganlyniad i lymder, ond rydyn ni eisiau gweithio gyda’n gilydd â nhw i gyflawni deilliant sydd yn well o lawer ar gyfer ein gwasanaethau lleol. Gall hyn gael ei gyflawni trwy ddyraniad tecach o unrhyw gyllid canlyniadol.”

“Mae cynghorau yn edrych i Lywodraeth Cymru i gydnabod y dylai y gwasanaethau ataliol yr ydyn ni’n eu rhedeg, megis gwasanaethau gofal, addysg a thai, fod wrth gallon yr holl ddyraniadau cyllidebol. Mae’n rhaid i hynny gynnwys yr ymrwymiad yr ydyn ni ei angen i gyllido’n gyfartal y sector iechyd gyfan, nid dim ond y gwasanaeth iechyd. Cafodd y safbwynt yma ei atgyfnerthu’n ddiweddar gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, oedd yn dadlau: ‘Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru fod yn eofn wrth ddangos eu bod yn deall pa wasanaethau sy’n bwysig er mwyn cadw pobl yn iach ac i atal problemau. Mae llawer o’r gwasanaethau yma o fewn llywodraeth leol felly dylai dyraniadau cyllidebol adlewyrchu hyn’.”

https://www.wlga.cymru/more-cuts-for-local-services-in-wales