CLILC

 

Strategaeth Mentora'r Cynghorwyr

Mae rôl cynghorydd yn un gymhleth ac ymestynnol. Gall pob cynghorydd, boed newydd neu brofiadol, elwa ar gymorth a chyfleoedd i ddatblygu wrth ymateb i sefyllfaoedd anghyfarwydd neu anodd. Mae'r awdurdodau'n cynnal amryw weithgareddau cynorthwyo a datblygu ar gyfer eu cynghorwyr ond mae rhai anghenion personol ac arbenigol na all gweithgareddau o'r fath eu diwallu. Mae mentora yn ffordd arall o ddiwallu'r anghenion hynny weithiau ac mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd yn y DG fel mae cyrff ac unigolion yn gweld y manteision.

 

Mae cynghorwyr wedi'u mentora eu hunain yn anffurfiol ers blynyddoedd, gyda chymorth swyddogion neu gylchoedd gwleidyddol, weithiau.

 

Mae cynghorwyr ledled Cymru wedi mynegi diddordeb mewn mentora neu fod o dan adain mentor. Felly, mae WLGA wedi ymrwymo i helpu'r awdurdodau i ofalu y bydd hynny'n digwydd.

 

Gall WLGA helpu awdurdodau a hoffai gynorthwyo cynghorwyr o ran mentora trwy:

  • Canllawiau am ddulliau a strategaethau awdurdodau
  • Gweithdai i gynghorwyr a hoffai fod yn fentoriaid

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe

https://www.wlga.cymru/member-mentoring