Mae WLGA wedi cadarnhau heddiw fod byd llywodraeth leol wedi ymrwymo i ofalu y bydd penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar gymunedau lleol mor dryloyw ag y bo modd.
Daw’r ymrwymiad hwnnw yn sgîl adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru sy’n dweud bod y cynghorau lleol wedi gwella prosesau craffu lleol o gryn dipyn, er bod angen rhagor o gysondeb ledled y wlad.
Yn ymateb i’r adroddiad, meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae byd llywodraeth leol Cymru yn wynebu un o’r cyfnodau anhawsaf erioed. Mae’r toriadau cyllidebol sylweddol, ynghyd â’r galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus, yn gorfodi sawl cyngor i drin a thrafod penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â’r modd y dylen ni gynnig a chynnal rhai gwasanaethau lleol. Mae byd llywodraeth leol Cymru am ofalu y bydd penderfyniadau pwysig o’r fath yn destun craffu cyhoeddus effeithiol fel y gallwn ni daro’r fargen orau er lles cymunedau lleol.”
“Mae byd llywodraeth leol yn parhau i gydweithio’n agos â Swyddfa Archwilio Cymru ac asiantaethau eraill megis y Ganolfan dros Graffu Cyhoeddus i ofalu bod penderfyniadau cynghorau mor gyson a thryloyw ag y bo modd. Mae trefniadau craffu effeithiol ynglŷn â gwaith, penderfyniadau a pholisïau cynghorau lleol a chyrff gwladol – ac, yn wir, pob sefydliad sy’n cynnig gwasanaethau cyhoeddus – yn arbennig o bwysig. Mae digon o frwdfrydedd ymhlith cynghorau lleol Cymru o ran galluogi cynghorwyr a chymunedau i gyflawni rôl fwy blaengar o lawer mewn prosesau penderfynu lleol.”
“Nod pob cyngor lleol yw dod i benderfyniadau doeth er lles cymunedau ei fro. Mae rôl allweddol i bwyllgorau craffu yn hynny o beth a bydd WLGA yn parhau i roi amrywiaeth helaeth o wasanaethau cymorth fel y bydd prosesau trosolwg a chraffu cadarn ar waith i ategu prosesau penderfynu cynghorau lleol Cymru i gyd.”
DIWEDD