Mae’r ffaith bod unig labordy profi bwyd sector cyhoeddus Cymru wedi cau yn dangos y gallai gwasanaethau hanfodol ddiflannu o achos prinder arian ym myd llywodraeth leol.
Meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae cyllidebau adrannau diogelu’r cyhoedd wedi gostwng o 30% ar gyfartaledd ac mae’r ffaith bod labordai cynghorau lleol wedi cau yn dangos bod gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol yn diflannu’n gyflym o achos toriadau llym yng nghyllideb byd llywodraeth leol Cymru.”
“Y gwir yw na all adrannau diogelu’r cyhoedd yng Nghymru fforddio cynnal yr amryw wasanaethau maen nhw wedi’u cynnig dros y blynyddoedd. Er hynny, bydd cynghorau lleol yn parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau megis Asiantaeth y Safonau Bwyd a Llywodraeth Cymru i orfodi pawb i gadw at safonau priodol er diogelwch y cyhoedd.”
“Mae hanes rhagorol i wasanaethau diogelu’r cyhoedd yng Nghymru o ran eu gallu i adweithio yn ôl amgylchiadau cyfnewidiol megis achosion o afiechyd a thwyll ynglÅ·n â bwyd. Byddan nhw’n parhau i ddyfeisio ffyrdd newydd o gydweithio i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Does dim dwywaith, fodd bynnag, bod hynny’n fwyfwy anodd yn y sefyllfa ariannol mae byd llywodraeth leol Cymru ynddi ar hyn o bryd.”
DIWEDD