CLILC

 

Digartrefedd

Yn unol â Deddf Tai Cymru 2014, mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i adolygu digartrefedd yn ei fro, llunio strategaeth i’w atal a chynnig cymorth i’r rhai sydd heb gartref neu a allai fod heb gartref cyn bo hir.

Mae’r awdurdodau’n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ynglŷn â thrin a thrafod digartrefedd ac maen nhw wedi bod yn rhagweithredol dros y blynyddoedd diwethaf hyn i’w atal trwy gynnig gwasanaethau dewisiadau tai. Mae’r dull hwn wedi llwyddo gan gwtogi ar ddigartrefedd a’r defnydd o letyau gwely a brecwast er nad yw wedi datrys pob problem. Mae sawl cartref yng Nghymru yn wynebu digartrefedd o hyd ac mae perygl y bydd hynny’n cynyddu yn sgîl toriadau yng ngwariant y wladwriaeth.

Mae Cynllun Digartrefedd 2009-19 Llywodraeth Cymru yn rhoi fframwaith i’r awdurdodau lleol o ran cynllunio a gwasanaethau. Nodau’r cynllun dros 10 mlynedd yw:

  • Atal digartrefedd lle bo modd
  • Gweithio ar draws ffiniau sefydliadau a pholisïau
  • Canolbwyntio ar y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau
  • Hybu cynhwysiant cymdeithasol a gofalu bod gwasanaethau ar gael i bawb
  • Gwneud y gorau o’r adnoddau
Pecynnau atal digartrefedd

Mae disgwyl y bydd gan awdurdodau lleol ddyletswyddau a phwerau newydd ym maes digartrefedd erbyn mis Ebrill 2015.

Mae bwriad i ddeddfu fel y bydd sylw ar:

  • atal digartrefedd ynglŷn â phawb allai golli ei gartref cyn pen 56 diwrnod
  • gadael i awdurdodau lleol gartrefu pobl mewn tai addas yn y sector preifat

Mae gwasanaethau atal digartrefedd wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf hyn ond mae angen i’r awdurdodau lleol gyflawni rhagor o waith i baratoi ar gyfer y ddeddf newydd. Mae WLGA wedi llunio dau becyn cymorth i’w helpu i ddatblygu ac addasu eu gwasanaethau yn y maes hwn.

(Bydd y dolenni yn agor yn Saesneg)

  • Pecyn: Cyfweld pobl i gynnig dewisiadau, a’r amryw gamau y gallai awdurdodau lleol eu cymryd i helpu rhywun i osgoi colli ei gartref Gweld y pecyn yma 
  • Pecyn: Sefydlu cynlluniau cysylltu â landlordiaid preifat i gynnig llety i bobl a allai golli eu cartrefi. Fe fydd rôl bwysig i gynlluniau o’r fath ynglŷn â thrin a thrafod digartrefedd am fod awdurdodau lleol yn cael defnyddio’r sector preifat i gyflawni eu dyletswyddau ym maes digartrefedd Gweld y pecyn yma 

Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle

https://www.wlga.cymru/homelessness